Ceir ychydig o wybodaeth a chanllawiau yma i'ch rhoi ar ben ffordd ar sut i gael hyd i bwy aeth drosodd i Batagonia a phryd. Mae yna lawer o wybodaeth i'w gael ar y we, yn enwedig ar sut i ddechrau hel achau. Cliciwch ar y dolenni isod am wybodaeth ddefnyddiol:
Gwefan 'Ancestors'
Gwefan 'UK and Ireland Genealogy'
Dyma rai pwyntiau defnyddiol i'ch helpu cyn dechrau ymchwilio:
-
Mae gwybodaeth gwerthfawr i'w gael ar wefan Peta Roberts, sef www.welsh-patagonia.com, s'yn darparu cyngor ar sut i ddod o hyd i wybodaeth o brif ffynonellau swyddogol yn Chubut a Chymru, yn enwedig rhwng 1865 a 1900.
-
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cadw copïau o bapur newydd â gyhoeddir yn y Wladfa, sef Y Drafod, sydd â gwybodaeth am enedigaethau a marwolaethau yr ardal. Maent hefyd yn cyhoeddi llyfr Cofrestri Plwyfi Cymru, sy'n mynd yn ôl i 1837.
-
Ceir rhestr cyfan o bwy oedd ar fwrdd y Mimosa yng nghefn llyfr Elvey Macdonald, Hirdaith (Gwasg Gomer, 1999)
-
Cyhoeddwyd llyfrau defnyddiol yn y 90au gan Albina Jones de Zampini o'r enw Reunion de familias en el sur, Llegadas al Chubut entre 1865 y 1922, yn dangos achau llawer o'r prif deuluoedd a ddaeth drosodd ar y dechrau - mae'r llyfr wedi'i ysgrifennu yn y Sbaeneg ac ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Os ydych yn bwriadu ymweld â'r Ariannin, mae cofrestr sifil yn Rawson, Chubut, gyda chopïau gwreiddiol o bob tystysgrif:
Direccion General Registro Civil Moreno 454 Rawson,
Chubut Province,
Republica Argentina
A gellir dod o hyd i gofrestri llongau rhwng 1882-1925 yn:
Centro de Estudios Migratores Latinoamericano,
Calle Independencia 20,
1099 Capital Federal Buenos Aires,
Republica Argentina