| CYMRAEG | ESPAÑOL | ENGLISH | |||||
|
|
|
|
|
|
|
Mae yna wledd o lyfrau wedi eu hysgrifennu yn y Gymraeg am y Wladfa, gan gynnwys hunangofiannau o'r oesoedd a fu a rhai diweddarach. Ceir yma fanylion rhai ohonynt - mae cyfran ar gael i'w prynu, tra bod eraill ar gael mewn llyfrgelloedd. Am fanylion ar sut i brynu copïau o rai o'r llyfrau, edrychwch ar www.gwales.com, neu wefannau'r prifysgolion fel a ganlyn:
Yn nhermau hanes datblygiad cymdeithasol ac economaidd y Wladfa, mae dau lyfr defnyddiol gan Glyn Williams, sef The Desert and the Dream (1975) ac yn ddiweddarach, Welsh in Patagonia: The State and the Ethnic Community (1991). Ond efallai mai'r llyfr enwocaf yn nhermau hanes cyffredinol yw Gwladfa Patagonia 1865-2000 (Gwasg Carreg Gwalch, 2000), diweddariad ar lyfr a gafodd ei ysgrifennu'n wreiddiol gan R. Bryn Williams. Mae Hirdaith (Gwasg Gomer, 1999) gan Elvey Macdonald yn croniglo'r dyddiau cynnar yn drylwyr ac mewn ffordd gyffrous. Ceir llawer o hanes y Wladfa ar ffurf hunangofiant, unai gan bobl yr ardal neu ymwelwyr o Gymru. Mae hunangofiant R. Bryn Williams, Prydydd y Paith (1983) yn nodweddiadol o hyn ond mae llawer o'r math yma o hanesion yn adlewyrchu profiadau merched gan fwyaf. Ailargraffwyd dwy nofel ddiddorol iawn gan Eluned Morgan yn ddiweddar, sef Dringo'r Andes a Gwymon Môr (Honno, 2001), yn son am fywyd yr awdures - ei phlentyndod ac anturiaethau amrywiol megis marchogaeth yn yr Andes a mordaith o Lundain yn ôl i'r Wladfa ar droead yr ugeinfed ganrif. Ceir atgofion hefyd oddiwrth Valmai Jones yn Atgofion am y Wladfa (1985) a stori difyr am fywyd cymeriad hanesyddol yn Nel Fach y Bwcs (1992) gan Marged Lloyd Jones, yn ogystal â hanes blwyddyn gyfan o fyw yn Y Wladfa yn Haul ac Awyr Las (1994) gan Cathrin Williams. Yn y Saesneg, does dim dwywaith mai'r llyfr enwocaf am yr ardal yw In Patagonia (1979) gan Bruce Chatwin, a ysgrifennodd ail gyfrol gyda Paul Theroux o'r enw Patagonia Revisited (1992), a gafodd ei gyhoeddi ar ôl i'r awdur farw, gyda lluniau gan Kyffin Williams.
Mae llyfr arall gan Kyffin Williams o'r enw Wider Sky (1991) yn rhoi manylion ei daith i'r ardal hefyd, gan gynnwys rhai o'r brasluniau a gymerodd yno. Ceir ffordd ddifyr arall o gofnodi amser yno yn Eldorado: Llwybrau Dau i Le Diarth (Gwasg Carreg Gwalch, 1999) gan Iwan Llwyd a Twm Morys, yn gymysg o gerddi ac ysgrifiau gan y ddau am yr ardal, tra roeddent yn teithio drwy wledydd eraill yn Ne America.
|
![]() |
||