Neidio at y cynnwys

S4C

Con Passionate

Beth sy'n poeni Eurof?

Con Passionate - Eurof

"Mae Eurof yn berson sy'n poeni am bob dim dan haul," meddai Matthew Gravelle, yr actor 32 oed sy'n chwarae rhan yr athro Cymraeg diniwed yn Con Passionate ar S4C.

Ac yntau'n paratoi i briodi Lara, merch ei freuddwydion, sy'n feichiog â'i blentyn, fe ddylai fod wrth ei fodd. Ond mae Eurof, sy'n aelod o Gôr Meibion Gwili yn y gyfres ddrama boblogaidd, yn poeni am bopeth.

Mwy »

Holi Siwan Jones, awdur Con Passionate

Cyfweliad gyda Shân Cothi

Magwyd Shân Cothi ym mhentref Ffarmers yn Sir Gaerfyrddin. Mae wedi teithio'r byd fel un o sopranos mwyaf adnabyddus Cymru, ac mae yn ôl ar ein sgrin fel yr arweinydd enigmatig Davina Roberts yn y ddrama boblogaidd, Con Passionate. Yma, mae'n siarad am yr ysbrydoliaeth am ei chymeriad, a'i theimladau ynglŷn â derbyn rôl actio arall.

Y Gyfres Newydd

Con Passionate - Davina

"Ro'n i am adael y gyfres yn ei blas a hynny cyn i fi golli'r plot yn llwyr!" chwardda'r awdures Siwan Jones, wrth sôn am y ddrama boblogaidd Con Passionate, sy'n dychwelyd i'r sgrin nos Sul 26 Hydref, a hynny am y tro olaf.

Wedi diweddglo dramatig y gyfres ddiwethaf a enillodd un o brif wobrau'r byd teledu, y Rose d'Or, mae pawb yn ysu i wybod beth yw hanes Davina, arweinyddes danllyd Côr Meibion Gwili, ac aelodau'r côr a'u teuluoedd.

Ar ddiwedd y gyfres, daeth cyfrinachau tywyll i'r wyneb, gyda'r chwarae yn troi'n chwerw wrth i gymeriadau Irfon a Pete frwydro gyda'u dyrnau dros Davina. Nawr, mae sawl cwestiwn angen ei ateb.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales