Ellen fwyn?
Mae hi'n ifanc ac yn bert, ac yn gallu canu'r piano. Ond nid yw cyfeilyddes newydd Côr Meibion Gwili yn un i'w chroesi yn ôl yr actores Sara Lloyd Gregory sy'n chwarae rhan Ellen Wynne yn Con Passionate.
"Mae hi'n dipyn o drama queen. Pan fo'n troi lan i'r ymarfer cyntaf yn ei char MG convertible coch mae'r dynion i gyd yn meddwl, pwy yw hon?" eglura Sara, a ymddangosodd yn ddiweddar yn addasiad y BBC o Tess of the D'Urbevilles ac sydd ar hyn o bryd yn chwarae Juliet yng nghynhyrchiad Cwmni Theatr Cymru o Romeo and Juliet gyda Jack Ryder, gynt o EastEnders.
Mwy »
"Mae'n gymeriad cegog a chryf iawn ac yn llwyddo i dynnu pawb i'w phen. Mae'n hoffi cael popeth just so ac yn mynnu fod pawb yn sillafu ei henw yn gywir – Ellen Wynne gyda dwy 'l' a dwy 'n'!"
Mae Ellen wedi ymuno â'r côr yn dilyn ymddeoliad Brian (Phylip Hughes) fel cyfeilydd. Ond mae'n amlwg ei bod yn adnabod un aelod o'r côr yn eithaf da yn barod, sy'n sicr o greu tensiwn rhyngddi hi a'r arweinydd, Davina (Shân Cothi).
"Tydi Ellen Wynne ddim yn hoffi Davina o'r dechrau am ei bod hi 'da Irfon," ychwanega Sara. "Mae'n amlwg yn hoff iawn ohono gan ei fod yn slic ac yn dipyn o charmer ac mae'n benderfynol o ddod i'w adnabod yn well doed a ddelo!"
Er bod Sara wedi cydweithio â nifer o aelodau cast Con Passionate eisoes ar gyfres y BBC Belonging a Y Pris ar S4C, mae'n cyfaddef ei bod dal yn teimlo'n nerfus ar ei diwrnod cyntaf ar y set.
"Ro'n i'n nerfus iawn yn yr ymarfer cyntaf yn enwedig gan nad oeddwn i wedi canu'r piano ers blynyddoedd. Ro'n i'n arfer cael gwersi pan ro'n i'n iau ond fe wnes i ddechrau chwarae mwy ar y gitâr a rhoi'r gorau i'r gwersi piano," eglura Sara, sy'n 22 oed ac yn wreiddiol o Rydaman.
"Fe ges i ambell i wers biano yng Nghaerdydd felly ro'n i'n gallu chwarae drwy'r darnau, ond roedd y camera'n canolbwyntio mwy ar symudiad y bysedd. Dwi'n credu eu bod yn ychwanegu'r sain dros fy crash-notes i wrth olygu, diolch byth am hynny!"
« Llai
Sgwrs gyda'r Sêr
Cyfweliadau gyda Steffan Rhodri, Shân Cothi, Aneirin Hughes a Ruth Jones a gwybodaeth am y gyfres.
Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch Sgrîn Hydref 2008
Gwefan Sgrîn