Neidio at y cynnwys

S4C

Con Passionate

Pennod 8

Y bennod olaf. Mae Davina yn sylweddoli beth mae Irfon wedi bod yn ei wneud, ac mae ganddi benderfyniad mawr i'w wneud.

Newydd da o lawenydd mawr i Judith gydag Andy yn symud yn ôl i fyw ati hi ond mae Gwenllian yn tarfu ar ei hapusrwydd gyda newyddion mawr.

Wrth i bethau ddod i ben rhwng Roger a Brian, ar y funud olaf mae Roger yn gwneud cynnig i Brian.

Ond beth fydd dyfodol Davina? Fydd hi'n gadael Irfon a Chôr Meibion Gwili?

Pennod 7

Mae pethau'n gwaethygu rhwng Davina ac Irfon, wrth i'r côr baratoi a theithio i gyngerdd ym Mryste.

Mae gan Llinos newyddion da i Judith ond a fydd Judith yn llwyddo i gadw'r newyddion yn gyfrinach?

Tra bod Martin yn closio at Nui, mae Ellen dwy 'l' yn ymddwyn yn fwyfwy eratig ac mae Irfon yn ymbellhau wrthi.

Pennod 6

Mae pedair mis wedi mynd heibio ac mae Lara bellach saith mis yn feichiog. Mae'r côr yn paratoi ar gyfer cyngerdd fawreddog ac maent wedi gwahodd soprano 'fronnog' i serennu - soprano sy'n hawlio cryn sylw.

Mae Louise a Davina yn cyfarfod i drafod Irfon, tra bod Sian Eleri yn diolch i Eurof am y gwahoddiad gyda Janet a Catrin i swper, ato fe a Lara.

Pennod 5

Pennod o lefen a llawenydd wrth i Eurof a Lara briodi o'r diwedd. Mae Sian Eleri yn cyrraedd â pharsel, ond beth sydd ynddo?

A chawn weld pwy sydd wedi bod yn anfon y negeseuon at Eurof...

Yn ystod y gwasanaeth mae Catrin yn beichio llefen ac yn cyhoeddi mai hi sydd wedi bod yn anfon negeseuon tecst at Eurof, a'i bod yn ei garu!

Mae Pete yn cyrraedd y briodas gyda'i wraig Thai - Nui, tra fod Pete wedi gwahodd Helen.

Mae Judith yn cael un gin a thonic yn ormod ac yn disgyn, tra fod Irfon ac Ellen yn diflannu i ystafell yn y gwesty ond mae Brian wedi gweld popeth!

Pennod 4

Mae hi'n noson stag Eurof yn Abertawe. Yn ystod y rhialtwch, mae Glyn yn colli ei arian i ddwy ferch ifanc tra bod Eurof yn cael anffawd gyda rhan sensitif o'i gorff!

Mae Ellen bellach wedi ymgartrefu fel cyfeilyddes, tra bod Roger wedi symud i fyw at ei frawd, Brian, ac yn cyhoeddi ei fod yn dymuno ymuno â'r côr.

Mae Glyn yn sbwylio Glesni'n rhacs. A fydd Andy'n cael ei hudo gan y ddynes drws nesa? Mae Helen a Pete yn agosáu ac mae swper diddorol yng nghartref Davina gydag Irfon ac Ellen...

Pennod 3

Mae diflaniad sydyn Ian yn dal i beri dryswch i bawb a phan mae Pete yn sylweddoli nad yw Helen wedi bod o gwmpas mae'n dechrau meddwl y gwaethaf. Mae Eurof yn dal i gael negeseuon, ond mae trefniadau'r briodas yn mynd yn ei blaen.

Er mawr fwynhad i Irfon, mae Brian yn dweud ei fod am roi'r gorau i'r côr.

Mae Ellen Wynne yn troi fyny mewn car bach crand ac yn dechrau fflyrtio gydag Irfon.

Pennod 2

Mae Brian a Pete yn parhau gyda'u boicot ac yn trafod cychwyn côr eu hunain. Problem fawr Davina yw cael cyfeilydd newydd llawn amser, mae gan Irfon ferch ifanc mewn golwg.

Mae Pete yn gweld Helen yn yr archfarchnad ac yn cynnig rhannu ei photel fodca gyda hi. Ond mae ymddygiad Ian dal yn ddirgelwch gan iddo dreulio amser yn y caffi internet a mynd i siop Glyn i brynu siwt wen.

Mae Eurof yn cwrdd â mam Lara, sef Frigg. Mae Eurof hefyd yn derbyn text sydd yn amlwg yn peri poendod iddo ond mae'n ceisio cuddio'r text oddi wrth Lara.

Mae Llinos yn cynnig swydd llawn amser i Judith i weithio yn y siop tra fod Andy yn ysu i ddechrau busnes fel garden designer.

Mae Davina yn cynnig cymeryd morgais allan ar y tŷ i brynu siar Louise o'r busnes.

Pennod 1

Mae rhan helaeth o'r bois wedi boicotio'r cor ers misoedd i gefnogi Pete ond maent yn cael eu gorfodi i ail-feddwl pan mae Davina yn cynnig ymddiswyddo a dechrau cor newydd, er mawr fwynhad i Irfon.

Mae Eurof a Lara bellach mewn perthynas, yn cyhoeddi eu bod yn disgwyl babi ac am briodi mewn mis. Mae Catrin a Janet wedi bod yn poeni am Eurof gan nad ydynt yn gallu credu fod merch fel Lara yn mynd allan gyda rhywun fel Eurof.

Mae Glesni yn dal i ddod draw a gofalu am Glyn tra fod Ian yn ymwelydd cyson â'r caffi internet. Pan mae achos o drais yn Abertawe, mae Pete a Brian yn gweld tebygrwydd rhwng Ian a'r llun ar y newyddion.

Mae Andy a Judith wedi penderfynu aros gyda'i gilydd gan fod Gwenllian ar ei blwyddyn olaf tyngedfennol yn yr ysgol, ond does yna ddim llonydd i'w gael gan Cecil y cymydog newydd sydd byth a beunydd yn codi'i ben dros y ffens.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales