Neidio at y cynnwys

S4C

Côr Cymru 2011

Corau Cymysg - Côr Rhuthun

Y Feirniadaeth

Cyfarfod y côr

Robat Arwyn sydd wedi arwain Côr Rhuthun ers 2007 ac mae'r côr wedi ennill y brif gystadleuaeth ar gyfer corau cymysg yn yr Eisteddfod Genedlaethol chwe gwaith.

Yn ogystal â'r genedlaethol, mae'r côr wedi cipio'r drydedd wobr yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1996, a'r wobr gyntaf yng Ngŵyl Gorawl Ryngwladol Sligo yn Iwerddon yn 2006.

Bu'r Côr yn cystadlu mewn nifer o ŵyliau cerdd dros y blynyddoedd gan gynnwys Killarney a Sligo yn yr Iwerddon ac Eindhoven yn yr Iseldiroedd, ac ar deithiau i wneud cyngherddau ym Mharis ac yng ngefeilldref Rhuthun, sef Briec yn Llydaw.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales