Neidio at y cynnwys

S4C

Côr Cymru 2009

Llongyfarchiadau! Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion yn ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2009!

Mae'r canu wedi distewi, a'r llen wedi cau ar gystadleuaeth Côr Cymru 2009. Roedd y canu yn y rownd derfynol yn neilltuol o dda, gyda safon uchel iawn gan bob côr. Gall Cymru gadw ei choron fel Gwlad y Gân yn ddi-os. Pob hwyl i'r corau i gyd a dymuniadau gorau am bob llwyddiant yn y dyfodol.

Darllen datganiad y Wasg

Gwylio'r côr buddugol

Arweinydd Côr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion, Islwyn Evans:

"Roedd cystadlu yn rownd derfynol Côr Cymru yn dipyn o her i'r ddau gôr ar ôl llwyddo yn y rownd gynderfynol. Roedd yn rhaid iddyn nhw weithio'n galetach fyth i greu argraff yn y rownd derfynol gan fod y safon mor uchel. Roedd hi'n noson gofiadwy a'r awyrgylch yn un arbennig iawn yn Aberystwyth ac roedd y bois yn y côr ieuenctid yn hapus iawn dros y côr iau - mae'r gystadleuaeth yn un gyfeillgar rhyngddyn nhw."

Mae cyfnod prysur yn wynebu'r côr ieuenctid yn y misoedd nesaf gyda chyngherddau yn Neuadd Albert , Llundain, a Gŵyl Ryngwladol Cernyw. Mae'r côr plant yn cael hoe nawr ar gyfer yr arholiadau ond byddan nhw'n perfformio a chystadlu unwaith eto yn yr haf.

Côr Plant
Ysgol Gerdd Ceredigion

Ysgol Gerdd Ceredigion

Mwy am Gôr Plant Ysgol Gerdd Ceredigion

Côr Cymru 2009
ar Facebook

Grwp Facebook Cor Cymru 2009

Grŵp Facebook Côr Cymru 2009

Lluniau o'r côr buddugol

  • Ysgol Gerdd Ceredigion
  • Ysgol Gerdd Ceredigion
  • Ysgol Gerdd Ceredigion
  • Ysgol Gerdd Ceredigion
  • Ysgol Gerdd Ceredigion

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales