Cymraeg?
cymeriadau

Ceir

Car cyntaf - Vauxhall Nova 1.2lITS Coch

Dysgu gyrru - Ardal Cwm Tawe – pasio tro cyntaf ym mis Medi pan yn 17 mlwydd oed. Ro’n i tu ôl i ‘road sweep’ ran fwyaf o’m mhrawf yn Rhydaman felly o leiaf wnes i ddim cael fy nhemptio i fynd yn rhy gyflym!

Car dy freuddwydion - Ddim yn un am geir ond petawn yn gorfod dewis byddwn yn mynd am Toyota Hilux

Cymhara dy hun i gar - P Reg BMW. Car da am yr oedran ond yn torri lawr ambell waith!

Cymhara dy gymeriad i gar - Renault o Gravells Cydweli. Fi’n cael discownt am enwi’r garej! (neu Citroen 2CV. Edrych yn dwp ond yn neis ar y tu mewn)

Cerddoriaeth yn y car - Daniel Lloyd a Mr Pinc ar y funud

Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Na. Mae Bili yn ddyn afiach sy’n casau Arwyn a Carwyn!