Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Arwyn

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Unigryw

Ymhelaetha - Arwyn a Carwyn yn ddau frawd ac yn gefndryd i Balders. Yn eu 30au. Math o gasglwyr dyledion ydyn nhw – does ganddyn nhw ddim lot o arian ond mae Arwyn yn llawn syniadau ar sut i gael peth – dipyn o whealer and dealer. Maen nhw yn cael eu gweld dipyn bach fel y village idiots gyda rhyw syniad gwallgo wastad ar y ‘go’ ganddyn nhw. Casglu dyledion ar ran Balders. Arwyn a Carwyn yn cael eu gweld bron fel un – wastad ym mhobman efo’i gilydd ac yn licio meddwl eu bod yn tyff-nyts. Ond mewn gwirionedd mae Arwyn heb Carwyn yn dipyn o soft touch.

Beth wnaeth dy ddenu at y script - Y ffaith taw Cath a Jon odd wedi ysgrifennu’r ddrama a taw cwmni gwych fel Opus oedd yn ei gynhyrchu! Mwy o waith a thrydydd cyfres plis bos!... A ‘spin-off’ i Arwyn a Carwyn!

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Grêt – braf cael bod allan ar set ym mhentref bach Llanfair ym Mro Morgannwg (ac hefyd yn Llanelli). Criw yn grêt a chyfeillgar. Cowbois ac Injans yn hollol wahanol i Pobol Y Cwm – dipyn o gomedi yn perthyn i’r gyfres ac mae’r sgriptiau yn ffraeth iawn.

Golygfa bythgofiadwy - Unrhyw un gyda Carwyn (John Rowley)

Hoff gymeriad - Balders, poor dab. Chwerthin gyda fe ac ar ei ben!

Cowboi neu indian? - Cowboi