Cymraeg?
cymeriadau

Ceir

Gyrru - Rhacsyn o Volvo ond mae’n ddibynadwy ac yn gwneud y job yn iawn.

Car cyntaf - Wedi i mi gael fy mhac pae cyntaf am ffilmio Coleg fe wnes i brynu two-door sports mini Cooper du ac aur. Yna fe ges i Buick Electra V85.6L – car Americanaidd - ac roeddwn i’n meddwl mod i real boi – ond un left hand drive oedd e! Roedd y ci (mwngrel) wrth ei fodd yn dod am dro ‘da fi ond wrth gwrs roedd yr olygfa yn codi ofn ar yrwyr oedd yn dod i’n cwfwr ni gan ei fod yn edrych fel bod y ci yn gyrru’r car!

Dysgu gyrru - Fel sawl un fe ddysges i yrru cyn mod i’n 17 oed. Pan o’n i’n grwt ifanc roedd gen i berthnasau oedd yn ffermio ac ro’n in arfer dreifo y tractors a’r peiriannau ar y fferm. Fe ddysges i yrru o gwmpas Cydweli a Chaerfyrddin a’r tro cyntaf i mi drio fy mhrawf fe ddywedodd yr arholwr wrtha i ar ddiwedd y prawf mod i’n yrrwr bach da – ond gair o gyngor – gna dy ore i gadw gweddill dy gorff oddi mewn i’r car. Roedd e’n cwl dyddie ‘na i’r crwts i gyd ddreifo o gwmpas ‘da hanner eu penelin yn hongian mas drwy’r ffenestr ac un llaw ar y llyw. Felly ffiles i’r prawf oherwydd ‘nny. Ond fe bases i yr ail dro.

Car dy freuddwydion - Corvette Sting Ray

Cymhara dy hun i gar - Renault Megane o Gydweli

Cymhara dy gymeriad i gar - Jaguar. Digon o steil ond yn ddrud i redeg.

Cerddoriaeth yn y car - Hi ho Silver Lining ond fersiwn Huw Caredig

Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Basen. Ond mi fydden i’n mynd ag e nôl y bore wedyn!

Stori am brynu car - Fues i bron a gwerthu car i ddyn tra wrthi yn ymarfer ar y set!