Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Bili Wheeler

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Gonest

Ymhelaetha - Bili Wheeler neu William i roi ei enw llawn. Mae’n foi caredig, parod ei gymwynas, golygus ac os am brynu car ail law – pwy well na Bili Wheeler i brynu neu i werthu ganddo (tafod yn fy moch!). Ond mae ganddo ochr dywyll hefyd. Fe sy’n rheoli y garej. Garej fach lleol yw hi sydd wedi gweld amser gwell ond mae Bili yn grediniol y daw haul ar fryn. Mae ganddo ddau sêlsman yn gweithio iddo - Manny a Balders – ac mae’n cael ei gythruddo ambell waith gan eu twpdra. Bili sydd wedi dysgu popeth ma’ nhw’n ei wybod iddyn nhw. Mae’n briod gyda Val ac mae ei ferch Jo Jo hefyd yn helpu yn y garej ond nid yw’n tynnu ei phwysau – yn hytrach mae’n dda am dynnu lot o sylw ati hi ei hun!

Beth wnaeth dy ddenu at y script - Cynildeb y sgript, hiwmor a sefyllfaoedd wedi’u sgriptio’n grefftus

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Pleser o’r mwya’ ac mae cwmni Opus yn gwmni hyfryd i weithio gyda ‘nhw. Mae hon yn ddrama real hefo eiliadau o hiwmor y sefyllfa yn torri trwodd fel cyllell trwy fenyn. Mae’r sgript gan John a Catherine Tregenna mor gynnil ac wedi ei ysgrifennu mor dda ac yn hollol gredadwy. Mae’n torri tir newydd ac mae’n braf gweld drama wedi ei lleoli yng Nghwm Gwendraeth.

Golygfa bythgofiadwy - Claddu ‘Twincl’ yng Nghae Du

Hoff gymeriad - Balders oherwydd s’dim gobaith iddo!

Cowboi neu indian? - Cowboi