Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Carwyn

Ymhelaetha - Mae Carwyn yn fud a bob amser yn gadael i’w frawd, Arwyn, wneud y penderfyniadau. Casglwyr dyledion ydyn nhw a’n swagro o amgylch Trefawr yn eu siwtiau. Arwyn yw’r dyn caled o’r ddau ac yn gweld ei hun fel y bos. Arwyn sy’n meddwl am bopeth tra bod Carwyn yn gallu defnyddio ei gryfder pan fo angen. Maent yn dîm a’n darparu’r gwyliwr â golygfeydd doniol. Maent yn gweithio i Balders ond yn breuddwydio am y ffilm maent eisiau ei greu ar ôl syniad gan Manny. Maent yn byw a gweithredu yn ôl rheolau Arwyn a Carwyn yn unig!

Beth wnaeth dy ddenu at y sgript? - Dim llinellau i’w dysgu!

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Dwi wedi mwynhau’r profiad yn ofnadwy a’n bleser cael gweithio â Rhys (Arwyn). Dwi’n credu y dylai Arwyn a Carwyn gael cyfres deledu eu hunain!

Golygfa bythgofiadwy - Unrhyw olygfa gydag Arwyn

Hoff gymeriad - Jeff

Cowboi neu indian? - Cowboi achos dwi’n hoffi chwarae gyda rhaffau!