Cymraeg?
cymeriadau

Ceir

Gyrru - Ford Fiesta

Car cyntaf - Ford Fiesta – fy nghyntaf a’r un dwi’n ei yrru nawr! Nes i brynu fy nghar cyntaf dair blynedd yn ôl – Ford Fiesta arian, R reg a’i henw yw Bianca! Mae gen i ddîs fflyffi pinc ges i yn anrheg gan fy chwaer yn y car!

Dysgu gyrru - Pen-y-bont yn 17 oed. Nes ddechrau dysgu syth ar ôl fy mhenblwydd yn 17 oed gan basio o fewn 4 mis. Doeddwn i methu disgwyl i ddechrau gyrru!

Car dy freuddwydion - Byddai Camper Van yn neis. Ond, a deud y gwir os ydi car yn mynd ‘sdim llawer o ots gen i sut mae’n edrych. Byddai ‘power steering’ yn neis.

Cymhara dy hun i gar - Kitt o ‘Knightrider’ – digon i weud

Cymhara dy gymeriad i gar - Land Rover gyrriant 4 olwyn. Alli di ddibynnu arni hi unrhywle.

Cerddoriaeth yn y car - Bodyrockers ‘I like the way you move’

Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Na. Fi’n hapus ‘da’r Fiesta bach!