Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Cez

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Positif

Ymhelaetha - Mae Cez yn wraig i Manny ac mae ei thad yn biler yn y gymdeithas. Maent yn symud nôl i’r ardal oherwydd bod tad Cez yn wael ac er mwyn i’w mab, Mabon, gael ei fagu mewn ardal Gymraeg. Magwyd Cez yn yr ardal ac mae’n ffrind i Jo Jo. Mae hi yn berson cadarn sy’n delio gydag unrhyw beth sy’n codi yn ymarferol – mae’n rhoi pobl eraill o flaen hi ei hun.

Beth wnaeth dy ddenu at y sgript - Cymeriadau, hiwmor a realaeth

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Mae’n grêt. Dwi wedi dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Dwi’n hoffi chwarae Cez gan ei bod yn gymeriad di-lol a thanllyd. Mae hi wastad yn dweud ei dweud ac yn gymeriad lyfli ar yr un pryd. Roedd y cast i gyd yn hyfryd, y sgript yn dda iawn, felly pleser oedd gweithio arni. Profiad bythgofiadwy.

Golygfa bythgofiadwy - Slapio Jo Jo – cymeriad Cath Ayers – odd hi’n haeddu fe!

Hoff gymeriad - Balders. Ma’ fe’n ffwl gwirion ond mae’n trio ei ore!

Cowboi neu indian? - Indian