Cymraeg?
cymeriadau

Ceir

Gyrru - Nissan Primera. Dwi’n licio ceir mawr a rhai sy’n mynd yn gyflym!

Car cyntaf - Mini fy Mam ac wedyn Escort fy Nhad!

Dysgu gyrru - O gwmpas Sir Fôn 1977. Roedd ‘na gymaint o gystadleuaeth bryd hynny i basio tro cyntaf a chyn gynted ag o’n i’n 17 oed nesh i ddysgu dreifio efo Dad ac wedyn pasio tro cyta’ ac ro’n i mor chuffed.

Car dy freuddwydion - Citroen DS

Cymhara dy hun i gar - Karmann Ghia. Vintage, gwerthfawr ond digon o fynd!

Cymhara dy gymeriad i gar - Escort GTI efo tolc yn yr ochr gyda hyder a golwg ar yr un adeg

Cerddoriaeth yn y car - Nina Simone ar hyn o bryd.

Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Na – does dim dal beth fyddwch chi’n ei brynu. Ond gêm ydi hi i gyd a dwi’n meddwl ei bod yn wael os ydach chi’n ferch – byd dynion ydi’r busnes gwerthu ceir yma dwi’n meddwl. Ond dwi wedi dysgu lot am werthu ceir o weithio ar Cowbois ac Injans a bob tro dwi’n pasio garej rwan dwi’n cymryd mwy o ddiddordeb ac yn edrych ar y busnes prynu a gwerthu ceir mewn ffordd wahanol.

Stori am brynu car - Mi gesh i glec efo’r Nissan drwy fangio i fewn i bolard ac roedd yna dolc dramatig iawn ar y car. Mi es i ag o draw i garej Nissan a galw i’w nôl ddyddiau yn ddiweddarach. Y dyn yno yn ymddiheuro yn fawr iawn – y mecanic wedi ei rifyrsio i mewn i rywbeth ac roedd bymp anferth yr ochr arall i gefn y car yn matsio. Beth bynnag fe wnes i chwerthin yn uchel ac wedyn fe ges drwsio y car i gyd am ddim!