Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Del

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Unig

Ymhelaetha - Hi ydi’r un sy’n cadw’r lle i fynd a chadw pawb a phopeth mewn trefn. Mae’n ddynes strêt iawn ac yn dweud ei dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod. Mae’n ddynes yn ei 40au ac mewn cyfnod anodd iawn yn ei bywyd. Does ganddi ddim plant, dim gwr a dim byd mewn gwirionedd i ddal mlaen ato. Mewn ffordd mae yna ddeuoliaeth diddorol i’w bywyd – gan ei bod mor drefnus wrth ei gwaith ond mewn gwirionedd mae ei bywyd ar chwal ac yn un mess mawr ac mae’n aml yn troi at y botel am gysur. Mae ganddi berthynas agos gyda Balders ac mae’n dibynnu lot arno ond mae ei bywyd yn fess. Mae ei gwr, Jimmy wedi ei gadael i fynd efo dynes lot fengach na hi (Emma) ac mae hi dal isio fo nol ar ôl popeth mae o wedi ei neud iddi – ond tydi hi ddim yn fodlon cyfaddef hynny.

Beth wnaeth dy ddenu at y script - Sefyllfaoedd diddorol, straeon gafaelgar wedi eu saernio’n dda. Cymeriad difyr Del.

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Yn mwynhau bob munud ac mae’r criw i gyd yn dod ymlaen yn dda. Braf cael ffilmio allan yn y wlad (ym Mro Morgannwg) a da ni i gyd fel un teulu mawr yn byw yn y bwthyn yma. Mae’r criw cynhyrchu wedi eu hurio dros y cyfnod ffilmio. Cael eistedd allan yn yr ardd yn meddwl dros eich llinellau yn yr haul rhwng golygfeydd. Mae’r sgript yn dda iawn a dwi’n meddwl fod y syniad yn grêt ac yn wreddiol. Mae darnau ysgafn a sefyllfaoedd doniol iawn i’w cael ac mae yna hefyd lot o bethau abswrd yn digwydd i bobl – ond mi rydan ni gyd yn cael ein hunain mewn sefyllfaoedd fel yna o bryd i’w gilydd yn tydan.

Golygfa bythgofiadwy - Pob golygfa yn swyddfa Bili lle mae’r cast i gyd yno – anodd iawn peidio chwerthin!

Hoff gymeriad - Balders oherwydd ei fod yn anobeithiol, desprêt ond hoffus

Cowboi neu indian? - Indian