Y Cymeriad
Cymeriad - Jo Jo
Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Uchelgeisiol
Ymhelaetha - Merch Bili Wheeler a Val a mistres Manny. Mae Jo Jo yn rhannu breuddwyd Manny o allu dianc o Drefawr i fywyd gwell. Mae’n berson uchelgeisiol iawn ac er mai gweithio yn yr Adran Weinyddol mae hi gyda Del, mae hi rili moyn rhedeg y lle ac yn ymddwyn felly ‘fyd! Mae ganddi lot o feddwl o’i hun ac mae’n gallu troi ei thad o amgylch ei bys bach. Mae’n gyrru BMW convertible tra bod ei Mam yn gyrru rhacsyn o Clio bach ‘lime green’. Mae hi mewn cariad ‘da Manny ond mae e’n briod ‘da Cez sy’n ffrind iddi. Mae Jo Jo fel arfer yn cael popeth mae hi moyn!
Beth wnaeth dy ddenu at y sgript - Odd Jo Jo yn eitha sialens ac on i’n meddwl bod rhannau o’r sgript yn ‘hilarious’…a’r arian!
Golygfa bythgofiadwy - Cyflawni un o’m ffantasiau sef whare wiw-wew yng nghefn car gyda Geraint Todd!
Hoff gymeriad - Balders achos mae wastad yn neud fi chwerthin!
Cowboi neu indian? - Cowboi achos wi’n lico’r bwts!