Ceir
Gyrru - Peugeot 206 du
Car cyntaf - Fiesta brown Y reg
Dysgu gyrru - Pontypridd. Roedd e’n hunllef. Gyrrais i Gaerdydd ar fy mhrawf gyrru a ges i 15 marc, un pwynt i ffwrdd o fethu fy mhrawf!
Car dy freuddwydion - Un sy’n rhedeg ar ddwr neu Chrysler Crossfire
Cymhara dy hun i gar - Fan Securicor gan fy mod yn dynn gyda fy arian yn ôl Rhodri a Cath
Cymhara dy gymeriad i gar - Lori fins achos fod gymaint o sbwriel yn dod mas o’i geg e pan mae e’n trio gwerthu ceir
Cerddoriaeth yn y car - Cerddoriaeth house
Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Byth! Mae Bili yn chwarae o gwmpas gormod felly fyddwn i byth yn ei drystio! Fyddwn i byth yn prynu car gan Manny chwaith, mae e rhy ‘smarmy’ a ‘cocky’!