Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Manny

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Twyllodrus

Ymhelaetha - Dyn teulu sy’n symud o Lundain i helpu ei wraig gyda’i Thad sydd yn marw o gancr. Mae Manny yn difaru dipyn oherwydd roedd ei fand yn llwyddiannus iawn nôl yn Llundain, ond roedd rhaid iddo roi popeth lan i symud nôl i Gymru. Er bod Manny yn twyllo ei wraig wrth gael perthynas â’i ffrind gorau, Jo Jo, dwi’n credu bod Manny yn ddyn da yn y bôn.

Beth wnaeth dy ddenu at y sgript - Y clawr

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Grêt. Cael lot o hwyl gyda gweddill y cast. Oriau hir ond bwyd neis! Dan ni’n brysur dros ben ond dwi wedi cwrdd â lot fawr o ffrindiau rhwng y cast a’r criw i gyd. Mae’r steil comedi tywyll yn y rhaglen yn wahanol a ffyni iawn, sgript arbennig iawn. Mae’n bleser cael actio Manny.

Golygfa bythgofiadwy - Golygfa rhyw gyda Catherine Ayers (scarred for life)

Hoff gymeriad - Twm gan nad yw byth yn anghofio ei eiriau!

Cowboi neu indian? - Cowboi