Awduron am y sgript
Beth oedd yr her fwyaf wrth ysgrifennu Cowbois & Injans
Jon - Mor belled, ni wedi sgriptio 16 o benodau ac mae wedi bod yn her treio dod lan a syniadau a storiau sydd yn cyrraedd y safon nethon ni osod reit ar y dechrau. Gobeithio bo’ ni wedi llwyddo - ni'n hapus ta beth!
Cath - Y mod i ddim yn gyrru ac yn deall y nesa peth i ddim am geir. Diolch byth bo’ Jon (fy mrawd) wedi gweithio mewn showrwm geir. Ein bod yn gosod yr her i’n hunain o ysgrifennu comedi ddrama felly, wrth gwrs, o’dd raid iddo fod yn ddoniol. Hefyd, ein bod ni’n moyn torri ffiniau a chreu byd ffres, real, gredadwy fel bo’ ni’n archwilio trasiedi bywyd y cymeriadau yn ogystal â’r comedi.
Beth roddodd y pleser mwyaf i chi wrth ysgrifennu’r sgript
Jon - Mae'n ffantastig cael gymaint o ryddid creadigol a pheidio teimlo bod rhaid i'n gwaith basio drwy sawl pwyllgor cyn cyrraedd y sgrîn, achos mae'r broses yna yn medru sugno'r ffresni allan o syniadau newydd, gwreiddiol.
Cath - Ar ôl bod yn rhan o beiriant enfawr fel y gyfres Casualty, o’dd e’n braf cael cyd-ysgrifennu rhywbeth gwreiddiol heb orfod ffitio i fewn i weledigaeth rhywun arall.
Oedd rhaid gwneud lot o waith ymchwil cyn y gyfres i werthwyr ceir eraill
Jon - Nes i weithio yn VW yng Nghanol Llundain am ddwy flynedd felly dwi'n gwbod itha tipyn am sut mae showrwm ceir yn gweithio. O’n i wedi fy amgylchynu gan sawl cymeriad bizarre ac mi nes i serfio lot o bobl diddorol gan gynnwys y 'Duchess of Kent' a Alan Bennet... felly o'dd da ni dipyn o fantais wrth ysgrifennu am Garej Wheelers. Dwi dal yn siarad yn rheolaidd ‘da pobl yn y busnes ceir.
Cath - Wel, o’dd Jon wedi gweithio fel sêlsman ceir ail law felly o’dd sawl stori gyda fe yn barod. Siaradon ni gydag ambell i berson, ond dyw e ddim yn hawdd cerdded mewn i showrwm ceir a gofyn iddyn nhw rannu eu sgamiau neu eu strategaeth werthu. Ma’r cwsmer i fod yn y tywyllwch. A gyda’r sêlsmen gonest (ac ma’ nhw i gael) – wel, o nhw’n lot neisach na’n cymeriadau ni sy’n cafflo bob cyfle ga nhw.
Sut fyddech chi’n disgrifio’r storiau sy’n digwydd yn y gyfres
Jon - Delio mewn comedi a thrasiedi. Un o'r prif elfennau yw'r ffaith bo'r cymeriadau yn gallu bod yn hynod o slei a thwyllodrus, weithiau dros y pethau lleia! Mae'r storis yn gweu i fewn i'w gilydd mewn ffyrdd annisgwyl fel bo'r gwylwyr byth cweit yn siwr i le mae'r stori'n mynd.
Cath - Stori o garu, brad a thwyll rhwng y sêlsman priod, Manny, a merch y bos, Jo Jo, sy’n rhedeg drwy’r gyfres ac yn cyrraedd trobwynt pwerus iawn ym mhennod 5. Hefyd, mae da’r perchennog, Bili Wheeler gyfrinach tywyll ar ei gydwybod o’i orffennol. Mae sêlsman arall, Balders â phroblemau ariannol sy’n ei dynnu mewn i sawl sefyllfa hynod o ddoniol. Wedyn, mae’r cwsmeriaid wythnosol yn ffurfio’r stori ar gyfer pob pennod ac mae rhain yn amrywio o’r ysgafn i’r teimladwy i’r dansherus.
Oes gyda chi hoff gymeriad a pham
Jon - Wi'n caru nhw gyd. Ond mae wastod yn hyfryd pryd ni'n ymweld â'r dafarn lle mae'r landlord, Jeff (Eifion Price) a'r 'barfly', Bry (Huw Ceredig) yn rhoi'r byd yn ei le a dweud jôcs dwl. Ma’ nhw'n atgoffa fi o ambell i gymeriad lleol yn Llanelli. Fel mae nhw'n gweud - 'Allech chi ddim neud nhw lan!'
Cath - Ma’ nhw gyd yn gret! Mae’r actorion wedi neud yn well na’r disgwyl ac o’dd ein disgwyliadau yn uchel iawn i ddechrau. Ond dwi yn mwynhau ysgrifennu i Del sydd yn fenyw sengl yn ei phedwardegau sy’n or-hoff o lased o win gyda’r nos. Hmm… pam hi tybed?