Proffil Jon
“Pleser o'r dechre tan y diwedd. O'r eiliad comisiynwyd y gyfres trwy'r dyddie cynnar o drafod y gyfres gyda’n cynhyrchydd tan nawr pryd y ni'n gwylio rushes diweddara cyfres 2, mae ‘di bod yn brofiad gret lle ni wedi cael y fraint o weithio gyda gymaint o bobl dawnus, creadigol ac uchelgeisiol.”
Proffil
Dwi wedi actio ar S4C mewn dramau fel Pobol y Cwm ac Yr Heliwr. Un o uchafbwyntiau fy ngyrfa fel actor oedd ymddangos fel capten tîm pêl-droed o Dde Cymru yn 'C'mon Midffild'. Hefyd, yn yr wythdegau cynnar, o’n i mewn bandiau roc cymreig fel 'Cwestiwn Da' a 'Tan Tro Nesa' a wedyn, yn y nawdegau, treuliais i beth amser yn Llundain fel cerddor (yn debyg i Manny yn y gyfres). Mae'r ffaith bo’ fi hefyd wedi gweithio fel sêlsman ceir, gwerthwr tai a labrwr yn golygu ‘mod i wedi cael gyrfa itha difyr!
CV
Theatr
Buggerall - Fersiwn modern o 'Under Milk Wood' gan Dylan Thomas.
Teledu
Belonging 2001 - 2002
The Bench 2001
Pobol y Cwm (stori-leinio) 2005 - 2006
Cowbois ac Injans 2003 - 2006