Ceir. Pawb yn eu gyrru. Neb yn hoffi eu prynu. Pam? Hawdd. Sêlsmen. Croeso i fyd Bili Wheeler, perchennog garej ceir ail-law ym mhentref dychmygol Trefawr yng ngorllewin Cymru. Draw yn Garej Wheeler’s tydi bywyd byth yn rhwydd.
Mae’r criw yn gwneud bywoliaeth o dwyllo, ond mae’n nhw’n twyllo eu hunain gymaint ag y maent yn twyllo eu cwsmeriaid...
Bili Wheeler yw perchennog garej Wheelers. Mae’n foi caredig, parod ei gymwynas, golygus ac os am brynu car ail law – pwy well na Bili Wheeler i brynu neu i werthu ganddo…hmm.
Val Wheeler yw gwraig Bili Wheeler. Val ar valium . . . ac alcohol! Mae’n byw bywyd braf iawn a tydi hi ddim yn gweithio – gwraig sy’ cal ei chadw – lady of leisure - ac yn gyrru car crap ‘i gymharu efo car sporty ei merch Jo Jo.
Jo Jo Wheeler yw merch Bili a Val a mistres Manny. Mae’n berson uchelgeisiol iawn ac er mai gweithio yn yr Adran Weinyddol mae hi gyda Del, mae hi rili moyn rhedeg y lle ac yn ymddwyn felly ‘fyd!
Balders yw prif werthwr ceir y garej ond nid yw’n cael fawr o lwc gyda’r gwerthu! Awdur nofelau rhamant yw ei ddiddordeb ond rhaid iddo ennill ei fara menyn trwy werthu ceir.
Manny yw’r gwerthwr car newydd. Cyn-gitarydd mewn band yn Llundain, priod i Cez a Tad i Mabon. Mae’n gorfod wynebu temtasiynau newydd o ddydd i ddydd fel Jo Jo.
Cez yw gwraig Manny, Mam Mabon, merch Russ sy’n marw o gancr. Mae Cez wedi ei magu yn yr ardal a’n ffrind gorau i Jo Jo. Person di-lol sy’n dweud ei dweud.
Del yw ysgrifenyddes y garej a hi sy’n cadw trefn ar bawb er nad oes trefn i’w bywyd personol hi. Mae ei chyn-wr wedi rhedeg i ffwrdd â merch hanner ei oed a’r unig gysur sydd gan Del yw’r botel win.
Arwyn a Carwyn sy’n ddau frawd a chefndryd i Balders. Maent wastad ymhobman â’i gilydd a’n licio meddwl eu bod yn galed. Casglwyr dyledion â’u bryd ar gyfarwyddo ffilm gowbois yn y gofod!







