Pennod 1 – Balders - Er Cof
Mae Balders wedi hel ei bac o Drefawr, a gadael Garej Wheelers yn y cach. Sut all Bili Wheeler, Manny, Del a'r criw achub y garej rhag y Maer dan-din?
Pennod 2 – Y Craic
Wrth i gar hen ffrind dorri lawr yn Nhrefawr, mae Del yn dod wyneb yn wyneb â'r fenyw y gallasai wedi bod.
Pennod 3 – Tywysoges Fach
Rhiant sengl yw Steff, sy'n meddwl y bydd prynu car i'w ferch yn sicr o'i chadw gydag ef. Ond yr oll yr wyr Bili Wheeler yw sut i yrru ei ferch i ffwrdd.
Pennod 4 - Croeso i Wheelers
Ail gyfle, o'r diwedd, i Arwyn a Carwyn gyfarwyddo ffilm: ond y tro yma, hysbyseb Garej Wheelers yw'r cynhyrchiad. Ar y sgrin fach, gwelwn fusnes teuluol, ble mae croeso i bawb.
Pennod 5 - Foxpaws Rameses III
Pan ddaw llythyr drwy'r post yn clodfori sêlsman geir sy'n deall sut i drin a thrafod menywod, mae pawb yn synnu - oherwydd taw Balders yw'r sêlsman dan sylw! Manny sy'n cymryd bryd Jo-Jo fodd bynnag, ac mae Cez a Gitanes yn dechrau poeni am agosatrwydd y ddau.
Pennod 6 - Cawl
Mae Del yn darganfod cyfrinach 'chef' deledu ac yn mynd ati i helpu ei wraig, Meinir, i dalu'r pwyth yn ôl. Dial sydd ar feddwl Gitanes hefyd, ac mae'n rhaid i Bili dalu'n ddybryd am yr hyn mae e wedi'i 'neud.
Pennod 7 - Y Ditectif Da
Mae hen elyn Bili, Columbo, yn benderfynol o’i ddal, eto! Bu Columbo a Bili yn ddynion euog yn eu tro, ond p’un o’r ddau yw’r ditectif da? Mae garej yn Nrefawr yn torri’r gyfraith, ac mae Columbo yn amau Bili.
Pennod 8 - Y Gorllewin Gwyllt
Mae'n ddiwrnod priodas ar Balders, ond dydi e ddim yn gwybod hynny am fod Sali wedi trefnu pob dim yn gyfrinachol. Ond gyda'i thad hi, a mam Balders, yn dod heb wahoddiad, Sali sy'n cael y syrpreis fwya'!
Pennod ola'r gyfres.