Ceir
Gyrru - VW Golf TDI
Dysgu gyrru - Rhydaman, 1973
Cymhara dy hun i gar - Lamborghini – hollol anymarferol ond lot o hwyl!
Cymhara dy gymeriad i gar - Car Clown mewn Syrcas. Simsan a dweud y lleia’.
Cerddoriaeth yn y car - Elton John Lovesongs, Rolling Stones.
Fyddet ti’n prynu gan Bili Wheeler? - Byddwn. Mae’r sêlsmen yn ddel!
Stori am brynu car - Mam eisiau Mazda newydd. Wedi symud i’r Gogledd ond am gael car o Dryslwyn, ger Llandeilio. Dyn garej yn dweud bod ganddo un glas fel oedd Mam eisiau a Mam yn talu am y car. Fy nghyrru i lawr i bigo’r car. Cyrraedd yno a ‘lime green’ oedd y car ac yn amlwg nad oedd yn gallu ei werthu’n hawdd. Roedd Mam wedi talu am y car erbyn hynny. Be fuodd enw’r car am ei oes?...Kermit wrth gwrs!