Cymraeg?
cymeriadau

Y Cymeriad

Cymeriad - Val

Gair i ddisgrifio’r cymeriad - Anwadal

Ymhelaetha - Val ar valium . . . ac alcohol! Gwraig Bili. Mae yna rhywbeth trist iawn amdani. Mae’n byw bywyd braf iawn a tydi hi ddim yn gweithio – gwraig sy’ cal ei chadw – lady of leisure - ac yn gyrru car crap ‘i gymharu efo car sporty ei merch Jo Jo. Mae iddi gefndir tywyll iawn ac mae yna lot o euogrwydd yma – mae hi jest yn byw o ddydd i ddydd. Roedd hi’n arfer mynd efo ffrind gorau Bili ac roedd y ddau yn y car pan ddywedodd Bili wrth ei ffrind am eu affêr - ac roedd yna ddamwain ac fe lladdwyd ei chariad a ffrind Bili.

Beth wnaeth dy ddenu at y sgript - Hiwmor naturiol ond eto dyfnder yn yr ysgrifennu.

Sut brofiad yw actio ar Cowbois ac Injans? - Mae’r sgript, cyfarwyddwyr, cwmni cynhyrchu a chyd-actorion yn rhoi cant y cant a mwy i greu campwaith o gyfres.

Golygfa bythgofiadwy - Rhedeg lawr grisiau mewn sodlau uchel yn gweithio ar Jo Jo. Lot o adrenalin. Grêt.

Hoff gymeriad - Jo Jo. Mae hi mor debyg i’w Mham (Val).