Series 1
Pennod 1
Wedi dyfeisio bwyd newydd – chicken and myshrwm pie sangwij … Pennod newydd o Arianwen yn y bag .. ar gefn ceffyl, gydag adenydd yn gwisgo dim ond gwn nos wedi ei wneud o sidan pur … rhamant ag antur. Antur a rhamant. Gwneud paned i Manny gyda twtch bach o boer yn’o fe, Cez yn rhy dda iddo fe, mwy o boer ‘fory... Cannodd y ffon neithiwr, ganol nos, rhif dierth … meddwl taw mam o’dd ‘na .. ond y dyn rhyfedd ‘na o Stoke on Trent o’dd e’ ‘to yn whilo am ei grwban … Gwerthu car heddi … wel jwst a bod
Pennod 2
Marchogodd Alffons ei geffyl gwyn ar hyd y traeth euraid, a’r heli’n tasgu yn ei ffroenau. Doedd dim carchar rhy gryf i’w ddal. Doedd dim siwrne rhy faith iddo… antur. Doedd dim am ei atal rhag cyrraedd Arianwen…rhamant. Ro’dd y pasti ges i heddi’ yn ffantastig, balans perffaith o gig, pastri, bach o dato, grefi a’r gristl hudolus … Manny dal yn wew .. Jojo stil yn gas .. Del yn neis … Bili yn disgwyl arno’i rhyfedd … Dŵr fi’n smelo o sugar puffs a sa’in gwybod pam ...
Pennod 3
Whw .. whw .. whw .. waaaaaaaaah … Arwyn a Carwyn .. help .. sa’i’n gw’bod beth wi wedi ‘neud i haeddu hyn … falle bo’ fi’n ddyn drwg iawn mewn bywyd blaenorol .. falle bo’ fi di bod yn siarc yn byta lot o bysgod bach ciwt .. neu draig kimono yn byta geifr a plant … neu gwithio i adran treth y llywodraeth .. ond wi ddim yn ddrwg nawr, so fe’n deg … fwyto nhw 6 pei minced beef and onion syth o’r freezer .. Manny dal yn wew .. Ma’ Cez yn smelo fel siocled … Freuddwydes neithwr i taw fi o’dd Andrew Ridgley ..
Pennod 4
Cowboi Gangsters yn y gofod … pwy feddylie am syniad mor wewllyd o dwp o hurt o wirion o aaaaaarrrrrgggggghhhhhhhhhh … s’dim cariad, s’dim rhamant, ma’ nhw’n saethu bob dim ‘da drille … cariad sydd angen yn y bydysawd ddim lladd … Ddoth Anti Mave a Shepherds pie draw heno, ond o’dd ‘da fe pys yn lle cig … breuddwydo bo fi’n bysgodyn aur, gyda breiche yn Buckingham Palace a o’dd y cwin yn bwydo fi a Charles yn mynd a fi am dro a ddeffres i ‘da tro’d Carwyn yn y nhrywn i a co’s Arwyn mewn lle anghyffyrddus iawn ..
Pennod 5
Wi’n deall Twm a ma’ Twm yn deall fi. Ma’ pawb arall ar y blaned yn wews. Ma’ Manny yn dwgyd cwsmeriaid … Ma’ popstars sy’n cael eu caru gan llwyth o bobol ddim moyn bod yn popstars… Ma’ Minchin yn atgoffa fi o llygoden ffyrnig … Cez yn atgoffa fi o’r hamster o’dd da fi cyn i Carwyn i roi e yn ei model aeroplane a hedfanodd e off i Brasil … Sgwrs neis ‘da Spiros yn lle kebabs n’ithwr, o’dd e’n colli ‘i fam a’i gartre ‘fyd. Wi’n meddwl agor siop peis a pastis yn Groeg i fod fel Spiros ond draw fan ‘co. Fydd Groegwyr yn lico peis a pastis wedi nhw ddod o’r pub fel ni’n lico kebabs a fydd merched Groeg yn meddwl bo fi’n soffistigedig a continental a proffesiynnol ..
Pennod 6
Sa’i ‘di twmlo fel hyn ers ges i ddewis tîms yn ysgol fach. Capten Balders. Ma’ Manny a Jo Jo yn ffiedd, neu Manny yn ffiedd a ‘sda Jo Jo ddim tast. Pam fo Manny sydd ‘da Cez yn mynd off ‘da Jo Jo. ‘Da fe ddwy a wi heb un. Ond falle eiff e’ off ‘da Jo Jo am byth a ceiff fi a Cez fyw ar ochor y mynydd da ieir a geifr a bychod … Wi am fyta lot o gaws heno a breuddwydo am Cez .. Gormod o gaws n’ithwr odd Cez yn 60 troedfedd yn strwa Drefawr fel Godzilla .. Meddwl dysgu sut i bobsleio erbyn olympics gaeaf nesaf .. Meddwl am yr hamster yn Brasil yn y carnifals … Cofio Cez yn frenhines y carnifal .. Es i fel Shakin Stevens neu viking .. sa’in siwr ..
Pennod 7
Ma’ Manny yn casau fi. Ma’ Jo Jo yn casau fi. Ma’ Cez yn casau fi. Ma’ Bili yn casau fi. Ma’r byd ar ben a sa’i wedi gwneud dim byd o’i le, dim byd. Ffilis i orffen Kebab heno, dim blas ac o’dd mwy o chilli sôs nag o gig arno fe .. Ma’ Arwyn a Carwyn off i penne da’r Cowboi Gangsters yn y gofod FYDD BYTH YN GWELD GOLAU DYDD fydd neb yn ddigon twp i brynu’r sgript achos fod dim cariad, dim ysbryd a dim enaid.. Falle fod JD yn iawn .. wi’n credu wna’i droi yn fynach .. s’dim llawer da fi i’w golli….. neu mynach yn crwydro Cymru fel y Littlest Hobo yn helpu pobol ac yn whilo am y pasti perffaith .. Fytodd Carwyn losin du ddo a sticodd o i’r wal.
Pennod 8
S’dim tŷ ‘da fi. S’dim cariad da fi, a ma ‘da fi job wa’th na hel cimychied o tînne merched hyll. Ond so na mor wael .. ma Cez wedi colli thad. So fi ‘rioed di nabod ‘y nhad felly do’n i ddim yn gwybod beth o’dd i fel i golli fe .. golles i mam .. ddim marw colli .. ond diflanu colli .. sai’n gwybod be sydd wa’th bod hi na a ddim mo’yn fi neu ddim ‘na o gwbwl .. Ma’ bywyd yn mynd i wella, eiff e ddim gwa’th. Rhaid bachu ar bob cyfle, wneiff neb yn sefyll yn fy ffordd. Balders a Twm yn erbyn y byd. ond pasti bach gynte cyn i ni adael .. neu falle scotch egg.