Llun o Caryl Lewis

CARYL LEWIS
Iau, 13 Gorffennaf 9pm

Ardal Dyffryn Aeron yng Ngheredigion oedd un o hoff lecynnau Dylan Thomas yn ôl yr awdur Caryl Lewis sy’n sgwrsio a cherdded gydag Iolo Williams.

Map taith Caryl Lewis

“Un peth sy’n sicr,” meddai Caryl. “Fe enwodd Dylan ei ferch Aeronwy ar ôl yr afon leol. Mae’n debyg bod Caitlin wedi myndi farchogaeth rhyw ddiwrnod pan oedd hi’n disgwyl, a phan welodd fy Nain, dywedodd y byddai’n galw’r babi’n Aeron petai’n cael mab. Yna, fe ofynnodd Dylan pa enw y byddai’n rhoi ar ferch - ac atebodd Caitlin, Aeronwy.”




Mae ei ei nofel gyntaf am hanes dau frawd Jac a Sianco a’u chwaer Martha, a oedd yn byw ar fferm anghysbell. Esbonia Caryl fod y nofel yn adlewyrchiad o’r ffordd o fyw traddodiadol yng nghefn gwlad Cymru sydd bellach yn araf ddiflannu.

Caryl Lewis

“Mae gan y dyffryn yma le annwyl iawn yn fy nghalon, ac wrth i mi gerdded o’i gwmpas mae’n anodd gweld ei gysylltiad â’r weledigaeth o’r Gymru gyfoes. Mae fel petawn i’n byw mewn dau fyd gwahanol. Mae’r un peth yn wir am fy mywyd personol. Dwi’n byw ar fferm a dwi wrth fy modd yn helpu allan bob nawr ac yn y man ar ôl treulio diwrnod cyfan yn eistedd y tu ôl i ddesg yn sgwennu.”

Caryl Lewis
CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C