Llun o Elin Fflur

ELIN FFLUR
Iau, 15 Mehefin 9:00pm

Efallai bod y gantores a’r gyfansoddwraig Elin Fflur yn cymryd camau mawr ymlaen yn ei gyrfa gerddorol ond ei chamau bach sy’n tynnu sylw Iolo Williams wrth i’r ddau droedio llwybrau Ynys Môn.

Map taith Elin Fflur

Wedi ei magu ar yr ynys, bydd Elin yn mynd ag Iolo am daith gerdded ar hyd yr arfordir gan ddechrau ger y morglawdd yng Nghaergybi a heibio Ynys Arw, llecyn sy’n llawn atgofion melys o’i phlentyndod. Ar y daith bydd Iolo yn tynnu sylw at y bywyd gwyllt gwych o’u cwmpas gan gynnwys y gwylogod, llursod, palod a’r morloi, yn ogystal â’r golygfeydd arfordirol trawiadol.




Yn sôn am Ynys Môn, meddai Elin, "Allwch chi ddim peidio cael eich ysbrydoli gan yr ynys hon a’r golygfeydd syfrdanol o’r môr. Os dwi’n chwilio am ysbrydoliaeth neu isio sgwennu cân, bydda i’n dod yma i’r arfordir o gwmpas Caergybi, a rhywsut, mae bob dim yn haws ac yn llifo’n well.

Elin Fflur

“Mae gan fy nheulu gysylltiadau hir â’r ynys hon. Fy hen daid oedd plismon y pentref ac roedd o’n enwog am nofio yn y môr bob dydd beth bynnag y tywydd. Fel mae’n digwydd, plismon o’n i isio bod cyn i fi ddechrau fy ngyrfa gerddorol.”

Elin Fflur
CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C