GAYNOR DAVIES
Mae’r gyflwynwraig deledu a radio Gaynor Davies wedi wynebu sawl anhawster yn ei bywyd, ond mae ei hagwedd bositif at fywyd yn amlwg wrth iddi sgwrsio a cherdded yng nghwmni Iolo Williams.
Meddai Gaynor, “Dwi’n meddwl y byd o’r ardal ac yn cofio mynd i lawr i Lyn Crafnant ar ôl capel ar fore Sul am bicnic pan o’n i’n blentyn. Ro’n i am fynd ar ‘speedboat’ ar y llyn ond doeddwn i ddim yn cael! Wedi dweud hynny, fe ges i gyfle i sgïo dðr ar Afon Menai yn ystod llanw uchel, ac un peth sy’n sicr, fydda i byth yn gwneud hynny eto!
Dewis Gaynor yw ardal Capel Curig sy’n agos iawn at ei chalon gan ei bod yn gartref i’w rhieni a llawer o’i ffrindiau.
“Mae gan fy nheulu gefndir hir o ffermio a chefais blentyndod hapus ofnadwy. Mae llawer iawn o’m ffrindiau ysgol yn dod o’r ardal wledig hyfryd hon.”
CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C