HUW JONES
Mynyddoedd a llynoedd yng ngogledd Sir Drefaldwyn ydy llwybr dewisol Huw Jones wrth iddo gadw cwmni i Iolo Williams. Mae’r ardal hefyd yn agos iawn at galon y cyflwynydd gan iddo gael ei fagu yn y fan yma o Gymru.
Dywed Huw am bistyll Rhiwargor, “Pan ddwedais i faswn i licio mynd i’r ardal yma i gerdded, doeddwn i erioed wedi bod yn yr union lecyn yma o’r blaen, felly dwi wedi gweld rhywbeth gwych I gychwyn y daith”.
Yn ystod ei flwyddyn o ‘ymlacio’, mae Huw yn mwynhau peidio cael cyfrifoldebau ac aeth i deithio yn Seland Newydd am chwe wythnos.
Mae Huw yn hoff iawn o weithgareddau awyr agored gan gynnwys cerdded, beicio a sgïo. Meddai, “Ma’ nhw i gyd yn mynd â rhywun allan, ac hwyrach pan ti’n neud gwaith yn y bôn, sy’n waith swyddfa, yna rwyt ti’n gwerthfawrogi o gymaint yn fwy”.
CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C