CERDDED A CHLEBRAN ... CROESO I CRWYDRO!

Ar ddiwrnod braf, does dim byd gwell na mynd am dro a mwynhau sgwrs ddifyr a chwa o awyr iach.

llun iolo williams

Dyna'n union beth mae'r naturiaethwr Iolo Williams yn ei wneud yn ei gyfres deledu boblogaidd Crwydro.

Gan droi fformat y rhaglen sgwrsio arferol ar ei ben a chyfnewid y stiwdio am yr awyr agored, mae'r gyfres yn cynnig cyfle euraid i Iolo a'i westeion gerdded tra'n sgwrsio, gyda rhai o olygfeydd gorau Cymru'n gefndir.

"Mae ffilmio Crwydro bob tro'n bleser," esbonia Iolo sy'n byw ym mhentref Llandysul ger Y Drenewydd gyda'i wraig Ceri a'u dau fab, Dewi a Tomos. Yn ogystal â rhoi cyfle imi gerdded mewn rhai o ardaloedd prydfertha' Cymru, mae'n fy nghyflwyno i ystod eang o bobl na fyddwn, fel arall, yn eu cyfarfod yn fy mywyd bob dydd. Dros y blynyddoedd dwi wedi crwydro yng nghwmni gwleidyddion, newyddiadurwyr, actorion, cerddorion a beirdd i enwi dim ond rhai."

Meddai Iolo fod y gwesteion yn dewis y teithiau eu hunain ac yn aml iawn, maent yn ymlacio'n fwy gan nad ydynt yn cael eu holi wyneb yn wyneb o dan oleuadau llachar y stiwdio.

"Mae'r gwesteion yn dewis y llwybrau cerdded oherwydd eu bod yn golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw. A chan eu bod yn troedio 'tir cyfarwydd', maen nhw'n fwy parod i siarad am bob agwedd o'u bywydau o'u magwraeth a'u teuluoedd i'w gyrfa a'u gwaith."

Bydd y gyfres newydd o Crwydro'n cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau ac o westeion, gan gynnwys teithiau yng nghwmni'r gantores Elin Fflur ar Ynys Môn, yr actor Mathew Rhys yn ardal Machynlleth, crwydro Capel Curig gyda’r cyflwynwraig a’r cynhyrchydd Gaynor Davies tra bo’r Athro Gwyn Thomas yn adrodd chwedlau a hanesion cefn gwlad Blaenau Ffestiniog.

CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C