MATHEW RHYS
Yr actor Mathew Rhys, wnaeth greu enw iddo’i hun drwy actio mewn cynhyrchiad llwyfan o The Graduate gyda Kathleen Turner yn y West End, sy’n cerdded a chlebran gyda arbenigwr bywyd gwyllt Iolo Williams ym Mro Dyfi.
Maen nhw’n mynd yn ôl i wreiddiau Mathew gan ymweld â fferm ger Pennal, Machynlleth, lle ganed ei dad a sydd bellach yn cael ei ffermio gan ei ewythr Hywel.
“Ro’n i eisiau bod yn ffermwr pan o’n i’n blentyn,” meddai Mathew. “Roedd Nain – oedd yn briod â ffermwr - yn arfer gwneud ei gorau i newid fy meddwl gan ddweud y byddwn i’n well off yn cael swydd ‘go iawn’. Roedd hi am i fi fod yn gogydd!”.
“Ar ôl byw fy mywyd mewn trefi a dinasoedd, dwi ddim yn gwybod a fyddwn i’n gallu byw bywyd ffermwr erbyn hyn,” meddai Mathew. “Fel llawer o bobl, mae gen i syniadau rhamantus am ffermio, er dwi hefyd yn deall pa mor anodd yw e.”
Ychydig iawn o amser gaiff Mathew i ddychwelyd i Bowys yn sgîl prysurdeb ei waith, meddai “Rwy’n hoffi dod nôl yma i ymlacio a mwynhau’r golygfeydd prydferth. Mae llawer o fy nheulu’n byw yma a rwy’n mwynhau clywed straeon am fy nain a taid. Mae heddwch yr ardal yn apelio’n sicr a mae’n hollol wahanol i fyw mewn dinas.”
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C