llun iolo williams

PROFFIL IOLO

Ganwyd Iolo yn Llanfair-ym-Muallt, Powys, a symudodd gyda'i deulu i bentref Eglwys Wen, Sir Benfro, pan oedd yn dri mis oed. Fe ddychwelon nhw i'r Canolbarth pan oedd Iolo yn 5 oed, i fyw ym mhentref Llanwddyn, ar lannau Llyn Efyrnwy. Aeth Iolo i Ysgol Gynradd Llanwddyn ac yno i Ysgol Uwchradd Llanfyllin, ddeg milltir i ffwrdd. Ni fwynhaodd Iolo'r ysgol uwchradd, ac fe ystyriodd adael er mwyn ymuno â'r fyddin.

Gadawodd gyda dau Lefel 'A', yn Ffrangeg a Bioleg, ac mae'n cyfaddef ei fod wedi gwneud yn wael: "Roeddwn yn well yn dysgu ieithoedd nag unrhywbeth arall. Wnes i bigo ieithoedd i fyny'n syth, ond roedd yn rhaid imi weithio ar bopeth arall. Roeddwn yn casáu mathemateg, a chemeg a ffiseg. Roeddwn yn eu casáu â chas perffaith, ac felly wnes i ollwng nhw cyn gynted ag oedd modd. Ond wnes i ddyfalbarhau gyda ieithoedd - Sbaeneg, Saesneg, Cymraeg a Ffrangeg - a chario ymlaen gyda dau i'r lefel 'A'."

Aeth Iolo i'r coleg yn Llundain lle wnaeth e radd mewn Ecoleg, cwrs mae'n disgrifio fel "Ffantastig. Roedd e fel astudio hobi. A dyna sut es i i fewn i'r fusnes bywyd gwyllt, a dweud y gwir."

Ar ôl gadael coleg, swydd cyntaf Iolo oedd gweithio mewn ffarm am wyth mis, cyn symud ymlaen i weithio mewn coedwigaeth. Dechreuodd ei yrfa mewn cadwraeth pan ddechreuodd weithio i'r RSPB yng nghanol y 1980au, swydd yr oedd yn dwli arno am bron i 15 mlynedd.

Tra'n gweithio i'r RSPB fe gyfrannodd at lawer o raglenni ar y radio a'r teledu, yn siarad yn aml am yr adar prin ac anarferol a geir yng Nghymru. Roedd yn un o'r cymeriadau i ymddangos ar gyfres ar BBC 2 o'r enw 'Visions of Snowdonia', ac yna fe gafodd e gyfres ei hun yn ei ddilyn wrth ei waith, o'r enw 'Birdman'. Yn y diwedd, gadawodd Iolo'r RSPB ac fe ddechreuodd weithio llawn-amser yn y cyfryngau, gan ymddangos ar nifer o gyfresi am fywyd gwyllt ar S4C yn ogystal ag amrywiaeth o brosiectau i BBC Cymru.

Disgrifia ei waith fel "Ffantastig - rwy'n cael fy nhalu i wneud fy hobi! Mae wedi rhoi'r cyfle imi deithio i lefydd egsotig o gwmpas y byd, er enghraifft India, Awstralia, Gogledd Canada ac ynys South Georgia."

Dyma'r chweched tro i Iolo wisgo'i esgidiau cerdded ar gyfer cyfres o Crwydro. "Mae'n grêt i gwrdd ag amrywiaeth o bobl ddiddorol, ac i ymweld â phob cornel o Gymru gan fwynhau'r awyr agored a'r golygfeydd hyfryd".

Mae gan Iolo a'i wraig Ceri ddau fab, Dewi a Tomos, a dau gi, Ianto a Gwen. Maent yn byw yn y canolbarth, yn agos i'r Drenewydd, heb fod yn bell i ffwrdd o'r fan lle magwyd Iolo.

CRWYDRO
CYNHYRCHIAD TELESGOP AR GYFER S4C