GWYN THOMAS
Yr ardal wledig o amgylch Blaenau Ffestiniog yw’r cefndir i amryw o chwedlau clasurol Cymreig megis y Mabinogi a’r tirlun hynafol hwn sy’n llwyfan i rifyn yr wythnos hon o Crwydro.
Y llenor a’r bardd uchel ei barch, Yr Athro Emeritws Gwyn Thomas fydd yn sgwrsio a cherdded yng nghwmni Iolo Williams. Wedi ei gyfareddu ers ei blentyndod gan hanesion hynafol Cymru, mae’n awyddus i arwain Iolo ar daith sy’n cyfleu hudoliaeth straeon yr oes a fu.
Ond er angerdd Gwyn am chwedloniaeth leol, nid yw pob aelod o’i deulu yn rhannu’r un brwdfrydedd dros yr hen straeon. “Doedd fy merch ddim yn cymryd hanner cymaint o ddiddordeb pan es i â hi i weld y garreg,” meddai. “Gofynnodd pam oeddwn i’n gwneud cymaint o sðn am hen garreg gyda thwll ynddi!.”
“Fedrwn i ddim dychmygu byw heb lechi a mynyddoedd o’m cwmpas. Rwy’n hoff eithriadol o fywyd gwyllt a cherdded, ac rwy’n sicr bod yna sibrydion o ryw oes a fu yn y bryniau yma. Mae’r ardal yn gartref i nifer fawr o hen, hen hanesion ac mae’n hollol naturiol i mi deimlo’n gartrefol yn y cynefin hwn.
“Mae’n annheg labelu Blaenau fel tref ddiwydiannol lwyd a chymylog, oblegid pan dywynna’r haul, fel y gwna’n aml, mae yma naws fawreddog a phobl gynnes hefyd.”
A TELESGOP PRODUCTION FOR S4C