Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro

Bro... yn crwydro Cymru

Bu cyfres Bro... yn bwrw golwg newydd dros amrywiaeth o fröydd yng Nghymru, gan ddod i adnabod y bobl a'r llefydd sydd wrth galon y gymuned.

Mwy am Bro: Papurau Bro

y Cyflwynwyr

Mae Iolo Williams a Shân Cothi wedi bod yn crwydro Cymru gyfan ac yn dal i ryfeddu at amrywiaeth y lleoliadau. Ond mae'r croeso'n dwymgalon lle bynnag maen nhw'n mynd.

"Mae gennym ni dreftadaeth naturiol ryfeddol yng Nghymru," meddai Iolo.

"Mae'n pobl a'n cymunedau hefyd yn unigryw ac rwy'n falch o fod yn cyflwyno cyfres sy'n dathlu hynny."

Mae Shân wedi mwynhau croeso a lletygarwch wrth iddi deithio ar hyd a lled y wlad yn perfformio.

"Dros y blynyddoedd, rwyf wedi teithio i bob cwr o Gymru i ganu mewn cyngherddau ac i ffilmio," meddai Shân. "Rwy'n falch o'r cyfle i dreulio amser mewn cymunedau tu fas i fy milltir sgwâr a chael golwg ychydig yn wahanol ar ein gwlad."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales