Bro Trawsfynydd
Pigion Bro
- Pigion Bro
Yr wythnos hon ar Bro, mae Iolo a Shân yn ymweld ag ardal Trawsfynydd yn harddwch yr hen Sir Feirionydd. Mae'n bentref braf a hamddenol ac yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg gyda' tua 86% o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg yn rhugl.
Mae tirlun godidog Trawsfynydd a'r fro wedi ysbrydoli nifer o feirdd ac awduron, ac un o'r enwocaf yw'r bardd Hedd Wyn a gafodd ei eni yng nghanol y pentref cyn symud i fferm enwog yr Ysgwrn. Erbyn heddiw mae'r pentref yn enwog am yr atomfa niwclear a'r llyn enfawr a grëwyd i oeri'r adweithyddion.
Alwyn Ellis - Waliwr Cerrig
Bydd Iolo a Shân yn mentro allan i'r caeau i gyfarfod ag Alwyn Ellis a'i gydweithwyr sy'n codi waliau cerrig yn yr ardal, a thu-hwnt. Mae'n grefft brin erbyn hyn, ond mae waliau cerrig yn rhan amlwg iawn o'r ardal arbennig hon hyd heddiw. Wrth helpu'r criw i adeiladu un ohonyn daw Iolo a Shân i ddeall y grefft o greu wal o'r math yma a'r holl waith sy'n rhan o'u hadeiladu.
Eleri Wyn Jones - Milfeddyg
Bydd Shân yn galw draw i fferm sydd wedi'i leoli ar lan llyn Trawsfynydd, sef fferm Coed-y-Rhygen, i gyfarfod ag Eleri Wyn Jones sy'n gweithio fel milfeddyg yn Nolgellau. Mae'r teulu'n enwog yn yr ardal am fagu ceffylau fel rhan o Fridfa Islyn ac mae Eleri a'i theulu wedi cystadlu cryn dipyn gyda'r ceffylau mewn sioeau gan gael llwyddiannau mawr yn eu maes.
Caiff Shân y cyfle i farchogaeth ar lan llyn Trawsfynydd gydag Eleri, gan brofi golygfeydd bendigedig yr ardal yn ystod eu taith.
Carys Wyn Edwards - Cadw gwenyn
Mae'r traddodiad o gadw gwenyn wedi bod yn nheulu Carys Wyn Edwards ers blynyddoedd, ond fe ddechreuodd ei diddordeb hi pan oedd hi'n bedair ar ddeg mlwydd oed. Erbyn hyn mae ganddi rhyw ugain o gychod gwenyn, i gyd ar wasgar mewn amryw o leoliadau. Mae Carys yn creu amryw o gynnyrch o'r cychod gwenyn - mêl, medd, canhwyllau, blociau o gwyr a llathrydd.
Mae hefyd yn cystadlu tipyn mewn sioeau gyda'i mêl. Yn y Sioe Frenhinol yn 2009, fe gafodd hi ddeuddeg gwobrau gyntaf, chwech ail wobr a chwe trydydd wobr. Dyma'r nifer fwyaf o lwyddiannau y mae'r sioe wedi ei weld erioed.
Mae Shân yn cael cyfle i weld Carys wrth ei gwaith wrth iddi ymweld â'r cychod gwenyn ar dir ei chartref yn ardal Ganllwyd.
Richard Foxhall - Atomfa Trawsfynydd
Bydd Iolo'n cael y cyfle i fentro y tu hwnt i ddrysau'r Atomfa Niwclear yn Nhrawsfynydd i weld beth yn union sy'n digwydd yno. Dechreuwyd adeiladu'r atomfa hanner can mlynedd yn ôl, yr unig atomfa fewndirol yn y Deyrnas Unedig. Ers 1991 mae'r gwaith cynhyrchu wedi dod i ben, a bellach mae'r safle yng nghanol y broses o ddadgomisiynu a chael gwared â'r gwastraff. Serch hynny mae'r atomfa yn parhau yn un o brif gyflogwyr yr ardal fel y bydd Iolo'n clywed gan un o'r gweithwyr, Richard Foxhall.
Dewi Prysor - Hanesydd
Dewi Prysor fydd yn tywys Iolo a Shân ar daith hanesyddol yn ardal Trawsfynydd. Mae o fwyaf enwog am ei waith fel awdur a cherddor, ond bu'n gweithio am gyfnod fel saer maen. Cafodd Dewi ei eni a'i fagu yn ardal Trawsfynydd ac mae bellach yn byw yn Llan Ffestiniog gyda'i wraig a'u tri mab.
Caiff Iolo a Shân eu tywys gan Dewi i hen fwthyn Dolddinas sy'n sefyll ar lan Afon Llafar. Mewn darn bach o gaeau gwyrddion ynghanol mynydd anial agored mae yma olion gwersylloedd ymarfer Rhufeinig. Maen nhw hefyd yn ymweliad â Chastell Prysor sydd wedi'i leoli ar ben Cwm Prysor. Dyw'r safle ei hun ddim llawer mwy nag olion y castell ar ben y graig, a'r unig gyfeirnod canoloesol at Gastell Prysor sydd wedi goroesi ydi mewn llythyr a ysgrifennwyd gan Edward y Cyntaf yn 1284.
Twm Elias - Plas Tan-y-Bwlch
Bydd Iolo'n galw draw i weld yr hyn sy'n digwydd ym Mhlas Tan y Bwlch, Canolfan Astudiaethau Amgylcheddol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae'r Ganolfan yn ceisio darparu cyrsiau sydd o ddiddordeb i bawb sydd yn caru cefn gwlad, ac fe fydd Twm Elias, sy'n gweithio yno'n sôn wrth Iolo am fwrlwm digwyddiadau'r plas, gan gyfeirio'n benodol at gwrs sy'n ymwneud ag ystlumod.
Dewi Williams - Llechi Ithfaen
Mae Dewi Williams a'i frawd yn rhedeg Cwmni Ithfaen Meirionnydd. Cwmni ydyn nhw sy'n creu dodrefn, placiau a lloriau allan o lechi. Buon nhw'n cael eu cynnyrch am flynyddoedd o Chwarel Cwrt y Bugail, ond caewyd y chwarel ddwy flynedd yn ôl. O ganlyniad i hyn, byddai llawer i gwmni arall wedi gorfod cau gan na fydden nhw'n medru cael y deunydd allweddol. Felly, penderfynodd Dewi a'i frawd brynu'r chwarel er mwyn cadw Llechi Ithfaen a nifer o gwmnïau eraill oedd yn dibynnu ar y chwarel ar agor.
Iolo fydd yn galw draw i gyfarfod â Dewi i ddysgu mwy am hanes y cwmni.
Sioe Trawsfynydd
Un o ddigwyddiadau pwysicaf pentref Trawsfynydd a'r ardal yw'r sioe amaethyddol flynyddol. Bydd Shân yn ymweld â'r sioe i gyfarfod â rhai o'r cymeriadau, gan gynnwys Gwyn Moss sydd yno'n arddangos yr hen ddull o cneifio gyda' gwellaif.