Bro Arberth
Pigion Bro
- Pigion Bro
Wedi'i ddisgrifio gan rai fel Y Bontfaen yn y gorllewin, mae tref farchnad hynafol Arberth yn fwy na chyrchfa siopa prydferth.
Cyfeirir at y dref yn y Mabinogi ac yn arbennig at Bwyll Pendefig Dyfed. Mae gan Arberth gastell hynafol, coedwigoedd hudolus a hanes chwilfrydig. Bydd Shân a Iolo'n cloddio tu-ôl i'r siopau dillad moethus a'r hen greiriau i gyfarfod rhai o'r pobl sy'n ychwanegu at gymeriad cynnes a chroesawgar Arberth.
Aled Davies - Plismon
Mae'r heddwas Aled Davies yn arwain tîm o chwe swyddog yr heddlu gyda'r dydd, ond gyda'r nos fe yw Brenin y Carioci, ac mae'n swyno ei ffrindiau gyda'i fersiwn Gymraeg o gân Elvis Presley - Hound Dog neu Ci Hela - a'r hen ffefryn Lawr Ar Lan y Môr. Mae'r gwesty lleol, Plas Hyfryd, wedi trefnu noson gala elusennol lle bydd Aled yn cymryd ei gyfle i ddangos fod gan Narberth y waw factor.
Eira Jones - Dŵr Prince's Gate
Fel llawer i un arall yn yr ardal, mae Eira Jones yn byw ar fferm. Yn ogystal â chynhyrchu llaeth a chig eidion, mae ei fferm ym mhentref Prince's Gate hefyd yn cynhyrchu dŵr - 25,000 potel ohono mewn awr. Mae'r hyn ddechreuodd fel fferm deuluol fach wedi tyfu dros bedair cenhedlaeth i fod yn fusnes llewyrchus sy'n cyflenwi poteli o ddŵr led led y DU. O fuarth i ffatri, mae Eira'n mynd ag Iolo ar daith y tu ôl i'r llenni o'r busnes teuluol arbennig yma.
Dawnswyr Morris 'Heb Enw'
Mae dawnswyr Heb Enw yn cyfarfod yn wythnosol i ymarfer eu math arbennig nhw o Ddawnsio Morris y Ffin. Yn gymysgedd o ddawnsio morris Seisnig a dawnsio gwlad Gymreig, mae'r grŵp yn gwisgo dillad o rubanau lliwgar a chlychau, ac yna'n rhoi paent du ar eu hwynebau. Mae'r grŵp yn credu bod y traddodiad yma'n dyddio nôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg pan waharddwyd cardota gan Gyfraith y Tlodion. Fe fyddai pobl yn bysgio ar y strydoedd , yn gwisgo hen garpiau a duo'u hwynebau i guddio eu hunain rhag yr ynadon fyddai'n eu harestio. Fe fydd Shân yn dod yn aelod anrhydeddus o'r grŵp am y noson ac yn troi ei llaw at ychydig o ddawnsio traddodiadol.
Meredydd Barker - Hanesydd
Mae'r dramodydd Meredydd Barker wedi'i eni a'i fagu yn Sir Benfro ac ar hyn o bryd yn gweithio ar 'Longshanks' - drama am Edward y Cyntaf. Yn ystod ei gyfnod yn ymchwilio ar gyfer y ddrama mae wedi bod yn astudio ychydig o hanes lleol yn enwedig mewn perthynas â'r Barwniaid Merswr. Mae'n sôn am hanes Castell Arberth ac yn tywys Iolo i ochr dywyll Arberth ar ymweliad â wyrcws rhif pedair ar bymtheg.
Rhydian Williams - Saer coed
Mae'r gŵr ifanc pedair ar bymtheg oed Rhydian Williams newydd gwblhau ei brentisiaeth saer coed yn Bugol's of Narberth, ac mae e eisoes yn serennu yn ei faes. Fe enillodd wobr Prentis y Flwyddyn 2008, yn ogystal â chystadleuaeth Saer Gorau Cymru, gan fynd yn ei flaen i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth y DU lle fu'n ddigon ffodus i gyrraedd y chwech olaf yn y wlad. Mae'r rhan fwyaf o waith Rhydian yn ymwneud â phrosiectau mawr fel talcen siopau a ffenestri, ond mae'n treulio'i amser hamdden yn cynhyrchu eitemau llai fel llwyau caru a bowlenni pren a'u gwerthu yn y siop anrhegion yng Nghastell Picton.
Clwb Beiciau Modur Clasurol Arberth
Mae Roy Thomas wedi bod yn gyrru beiciau modur ers pan oedd yn bedair ar ddeg mlwydd oed, a 58 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae e dal yn gyrru. Yn o sylfaenwyr Clwb Beiciau Modur Clasurol Arberth, sefydlodd Roy'r grŵp yn 1995. Mae'n berchennog ar bedwar o feiciau clasurol ac mae ganddo ddigon i'w ddifyrru yn ei ymddeoliad. Mae yna chwe chlwb beic modur clasurol yng Nghymru a rhyngddyn nhw maen nhw'n trefnu pencampwriaeth beiciau modur clasurol. Mae yna rasys yn cael eu cynnal yn aml ar drac West Atheston ar gyrion Arberth - trac milltir o hyd sy'n gweu ar draws caeau a thrwy goetir - ac fe fydd Shân yn mentro allan i ganol y glaw i ymuno â'r clwb moduro ynghanol y mwd.
Glesni Williams - Urdd y Brodweithwyr
Mae Canolfan Bloomfield yn Arberth yn gartref i sawl clwb a chymdeithas gan gynnwys Cangen Penfro o Urdd y Brodweithwyr. Daeth un aelod o'r grŵp sef Glesni Williams yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel un o drigolion Cwmderi ar Pobol y Cwm gan weithio yno fel actores yn y cefndir am 15 mlynedd. Mae hi ac aelodau eraill y grŵp brodweithio yn cyfarfod yn wythnosol i ymarfer eu crefft a rhannu'r syniadau â'i gilydd. Y prosiect diweddaraf i'r grŵp ymgymryd ag ef oedd Baner Sir Benfro - baner o frodwaith i fynd gyda Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yng Nghaerdydd. Roedd y cynllunydd enwog o Arberth, Eirian Short, yn gyfrifol am y cynllun cychwynnol, ac fe fu Glesni Williams yn arwain y tîm o frodweithwyr Sir Benfro i droi'r weledigaeth yn realiti.
Ian Gravell - Gŵr Busnes Lleol
Yn wreiddiol o Gydweli, symudodd Ian Gravell i Arberth pan briododd ei wraig, Wendy. Rhyngddyn nhw, maen nhw'n rhedeg sawl busnes yn yr ardal gan gynnwys bwyty The Carreg, garej ceir a sawl siop ar y stryd fawr. Yn amgylcheddwr brwd, mae Ian yn cadw gardd y tu ôl i'r bwyty lle mae'n magu hwyaid, ieir, moch, geifr a soflieir. Mae'n defnyddio ei gynnyrch cartref yn y bwyty ac yn rhoi profiad unigryw i Shân i flasu pryd arbenigol y bwyty - stecen wedi'i goginio ar garreg boeth - y 'garreg' sy'n dwyn enw'r bwyty.