Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Llanrwst

Yr wythnos hon, mae Iolo a Shân yn teithio i dref fechan Llanrwst sydd wedi'i leoli yng nghysgod Eryri yn nyffryn Conwy.

Ym 1276 cipiodd Llywelyn Ein Llyw Olaf y dref, rhoi ei baner a'i harfbais ei hun iddi, a chyhoeddi nad oedd gan y Edward I o Loegr, nac Esgobaeth Llanelwy, unrhyw awdurdod yno. Ym 1947 gwnaed cais i'r Cenhedloedd Unedig i gydnabod y dref fel gwladwriaeth annibynnol o fewn Cymru.

Erbyn heddiw, mae Llanrwst yn denu nifer o ymwelwyr sy'n mwynhau ei hanes diddorol, y golygfeydd prydferth a'r cyfoeth o weithgareddau awyr agored sydd ar gael yn yr ardal.

Alun Tan Lan - Canwr a chyfansoddwr

Alun Tan Lan - Canwr a chyfansoddwr Ganwyd Alun Tan Lan ym Mhandy Tudur, ychydig y tu allan i Lanrwst, ond nawr, ar ôl chwe blynedd yn byw yn yr Iwerddon, mae wedi dychwelyd i ymgartrefu yn Llanrwst gyda'i bartner a'i ferch fach, Nel.

Mae Alun yn ganwr a cherddor sydd yn perfformio yn uniaith Gymraeg. Cynhyrchwyd ei albwm cyntaf, Aderyn Papur, ar y cyd gan Toni Schiavone a Mark Roberts gynt o Y Cyrff a Catatonia. Rhyddhawyd yr albwm yn 2004.

Mae wedi cyfrannu i albwm unigol Euros Childs gynt o Gorky's Zygotic Mynci, ac mae'n aelod o'i fand ar daith.

Pan oedd Alun yn 14 fe greodd y band punk rock Dail Te Pawb ac yn hwyrach aeth ymlaen i ymuno â Boff Frank Bough yn chwarae'r gitâr fâs.

Bydd Shân yn sgwrsio ag ef am ddylanwad yr ardal ar ei gerddoriaeth.

Bryn Davies - Arwerthwr

Bryn Davies - ArwerthwrMae Bryn Davies wedi bod yn arwerthwr ers blynyddoedd. Bu'n gweithio gyda chwmni Bob Parry hyd at 2001, ac erbyn hyn mae'n gweithio i gwmni J. Bradburne Price & Co yn ym mart Llanrwst a'r Wyddgrug. Fe fydd Shân yn galw draw i'r farchnad yn Llanrwst i sgwrsio gyda Bryn a'r ffermwyr lleol cyn cael tro ar geisio gwerthu hwrdd Texel!

Dewi Jones ac Wmffra Huws - Bragdy'r Nant

Dewi Jones ac Wmffra Huws - Bragdy'r NantMecanic yw Dewi, ond dwy flynedd yn ôl penderfynodd Dewi, Wmffra a chriw o ffrindiau ddechrau bragu cwrw. Mae deg ohonyn nhw'n rhan o'r busnes gyda' phedwar ohonyn nhw'n helpu gyda'r bragu.

Maen nhw'n bragu'r cwrw mewn hen adeilad fferm gyda waliau calch sy'n ddelfrydol i gadw'r cwrw ar y tymheredd cywir.

Erbyn hyn mae ganddyn nhw 3 gwahanol fath o gwrw - Cwrw Corryn; Cwrw Chwaden Aur a Chwrw Mwnci Nel. Maen nhw'n gwerthu'r cwrw mewn sioeau a gwyliau ar hyd a lled Cymru.

Mae Shân yn cyfarfod â'r ddau yn y bragdy ac yn ogystal â chlywed yr hanes tu ôl i enwau rhai o'r brandiau cwrw, mae'n cael y cyfle i flasu ychydig ei hun!

Mary a Nelson Haerr - Perchnogion Gwesty'r Dolydd

Mary a Nelson Haerr - Perchnogion Gwesty'r Dolydd Merch leol yw Mary Haerr a fagwyd yn ardal Llanrwst cyn iddi fentro am drip i Efrog Newydd gyda'i chwaer gan ddychwelyd pedair blynedd yn ddiweddarach gyda gŵr a phlentyn!

Fe briododd hi Nelson Haerr sy'n wreiddiol o'r UDA ac mae ganddyn nhw ferch fach o'r enw Morgan. Symudodd y teulu nôl i Lanrwst rhyw bum mlynedd yn nôl gan brynu a rhedeg Gwesty'r Dolydd.

Bydd Shân yn galw draw i'r gwesty i weld Mary wrth ei gwaith a bydd hefyd yn sgwrsio gyda Nelson fu'n gweithio fel diffoddwr tân yn Efrog Newydd adeg ymosodiad 9/11 yn y ddinas.

Elystan Metcalfe - Cigydd

Elystan Metcalfe - CigyddCigydd sydd wedi byw a gweithio yn Llanrwst ar hyd ei oes yw Elystan Metcalfe. Mae wedi bod yn rhedeg ei gwmni ers ugain mlynedd. Yn ogystal â'r siop, mae hefyd yn dosbarthu cig i westai lleol.

Mae'n prynu'r anifeiliaid yn y mart lleol yn Llanrwst, ac mae'r anifeiliaid yn mynd i'r lladd-dy yn Llanrwst hefyd, felly mae popeth yn cael ei wneud o fewn y dref.

Mae'n arbenigwr ar wneud selsig ac fe fydd Iolo'n cael y cyfle i wneud selsig gydag Elystan yng nghefn ei siop.

Pierino Algieri - Ffotograffydd

Pierino Algieri - Ffotograffydd Ffotograffydd natur a thirwedd leol sy'n byw yn Llanddoged yw Pierino Algieri. Mae ei dad yn Eidalwr a ddaeth i wersyll carcharorion rhyfel yn Llanrwst adeg yr Ail Ryfel Byd ac mae'r teulu wedi ymgartrefu yno ers hynny.

Hobi oedd ffotograffiaeth iddo i ddechrau ond erbyn hyn mae pethau wedi datblygu. Mae ei luniau'n cael eu defnyddio ar gardiau, chalendrau ac mewn pamffledi twristiaeth lleol.

Mae ei waith yn cael ei arddangos mewn sawl oriel, gan gynnwys yng nghaffi Tu Hwnt i'r Bont yn Llanrwst. Bydd Iolo'n ymuno ag ef wrth iddo fentro allan i dynnu llun hydrefol o Tu Hwnt i'r Bont.

Rhys Evans - Canolfan Antur Tree Top

Rhys Evans - Canolfan Antur Tree TopBydd Iolo'n galw draw i Ganolfan Antur Tree Top i weld beth yn union sy'n digwydd yn y llecyn bach o goed ar gyrion Llanrwst. Bydd Rhys Evans sydd wedi gweithio i'r cwmni ers tair blynedd yn tywys Iolo trwy rhai o gyrsiau'r ganolfan, cyn ei wahodd i fentro i'r uchelfannau.

Rhian Owen a Rhian Williams - Cwmni Siwgwr a Sbeis

Rhian Owen a Rhian Williams - Cwmni Siwgwr a Sbeis Dwy wraig fferm a benderfynodd mynd ati a chychwyn busnes eu hunain yw'r ddwy Rhian. Dim ond pedair ar hugain mlwydd oed oedd y ddwy ar y pryd ac mae'r busnes wedi datblygu cryn dipyn ers hynny. Dechreuodd y ddwy'n pobi mewn becws ar fferm leol ac yna symud i siop yng nghanol tref Llanrwst. Ond fe welon nhw gyfle i ddatblygu ymhellach a symud i'w ffatri bresennol mewn parc busnes yn Llanrwst. Erbyn hyn, maen nhw'n cyflenwi nwyddau i siopau Spar a Londis a siopau hufen ia Cadwaladers.

Bydd Shân yn galw draw i'r uned yn Llanrwst i weld yr hyn sy'n digwydd yno ac i gynnig help llaw gyda'r coginio.

James Berry - Hanesydd lleol

James Berry - Hanesydd lleol Bydd Iolo'n cael taith hanesyddol o gwmpas Llanrwst yng nghwmni'r hanesydd lleol James Berry. Fe fyddan nhw'n ymweld â Chastell Gwydir - cartref teulu dylanwadol y Wynniaid oedd yn perthyn i hen linach tywysogion Gwynedd. Mae'n enghraifft hyfryd o bensaernïaeth Tuduraidd ac mae yna gysylltiadau hanesyddol rhwng y castell a Hywel Coetmor, Catrin o Ferain a'r Esgob William Morgan hefyd.

Fe fyddan nhw hefyd yn cerdded heibio'r Elusendai yn y dref. Rhodd oedd yr Elusendai gan Syr John Wynn i gynnig lloches i dlodion Llanrwst - fel arwydd o'i haelioni ei hun efallai. Fe fyddan nhw'n dod â'u taith hanesyddol i ben drwy ymweld ag Eglwys Sant Crwst, lle mae Llywelyn Fawr wedi'i gladdu.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales