Bro Llanfair Caereinion
Pigion Bro
- Pigion Bro
Yr wythnos hon, bydd Shân ac Iolo'n mynd i ganolbarth Cymru, ac i dref sydd efallai'n enwocach am fod yn ddiwedd taith y rheilffordd ysgafn Y Trallwng a Llanfair.
Wedi'i adeiladu ar safle hen gaer Rufeinig, mae Llanfair Caereinion yn un o drefi lleiaf Sir Powys. Mae'n gorwedd yn Nyffryn Banw, rhyw 10 cilomedr i'r gorllewin o'r Trallwng, ac mae'r dref farchnad hynafol hon wedi dal ei gafael ar ei hunaniaeth a'i thraddodiadau.
Mae'i chymuned fyrlymog yn parhau i gynnal traddodiadau'r canu plygain a dawnsio gwerin sydd wedi bod yn elfen flaenllaw yn hanes Sir Drefaldwyn.
Aled Evans - Danswyr Dyffryn Banw
Wedi'i eni a'i fagu yn y dyffryn, mae Aled yn parhau i fyw ar yr un fferm lle cafodd ei eni - Y Foel - ac mae nawr yn rhedeg y fferm gyda chymorth ei fab. Mae Aled wedi bod yn dawnsio ers ugain mlynedd ac yn un o ryw ddeg o bobl leol sy'n dod ynghyd i ddawnsio mewn parau ac mewn twmpathau fel rhan o Ddawnswyr Dyffryn Banw. Yn 2003, cafodd y grŵp lwyddiant ysgubol pan enillon nhw yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ers hynny mae'r grŵp wedi penderfynu cael seibiant o'r cystadlu a chanolbwyntio ar fwynhau eu hunain. Mae dawnsio gwerin yn rhan bwysig o hanes yr ardal ac mae Dawnswyr Dyffryn Banw yn perfformio bob blwyddyn y tu allan i Westy'r Cann Office yn Llangadfan i goffáu William Jones, ffermwr lleol a ddaeth yn fardd enwog ac yn llythyrwr o fri yn y ddeunawfed ganrif. Ond yn bwysig i Ddawnswyr Dyffryn Banw, fe gasglodd ganeuon plygain a dawnsfeydd gwerin, ac mae nifer o ddawnsfeydd cynhenid Sir Drefaldwyn yn parhau'n ddiogel hyd heddiw, yn bennaf oherwydd ei waith enfawr ef.
Alwyn Hughes - Casglwr hen greiriau lleol
Mae Alwyn yn treulio'i amser hamdden yn ymchwilio i hanes lleol a chasglu enwau caeau. Ond nid gwybodaeth yn unig mae e'n casglu; mae ganddo hefyd gasgliad eang o greiriau sy'n berthnasol i'r ardal a'i hanes. Yn eu mysg mae buddai, cyfarpar cigyddion, eitemau o'r lladd-dy ac ystod eang o greiriau gan deulu lleol - J Huw - sy'n enwog yn yr ardal am gynhyrchu offer amaethyddol.
Yn ogystal â'i gasgliad o greiriau amaethyddol, mae Alwyn wedi treulio'r bum mlynedd ddiwethaf yn casglu cardiau post. Bellach, mae ganddo 600 o gardiau post o'r 'oes aur' rhwng 1900 ac 1920 yn ei feddiant. Yn 1920 fe gynyddodd prisiau stampiau o hanner ceiniog i geiniog ac fe ddirywiodd diddordeb pobl mewn cardiau post yn ddramatig. Mae gan Alwyn lawer iawn o gardiau post o Lanfair Caereinion gan gynnwys sydd â llun o'r gofeb yng nghanol y dref yn ystod dathliadau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Christine Mills - Arlunydd Cysyniadol
Mae Christine Mills yn un mewn nifer o aelodau'r teulu Mills sydd wedi'i geni a'u magu yn Llanerfyl. Maen nhw'n deulu agos gyda gwreiddiau cryf yn y gymuned ac mae ei chyfnither, Eleri, hefyd yn arlunydd lleol ac mae ei brawd Richard, yn aelod o Barti Cut Lloi. Ar wahân i gyfnod byr yn astudio ym Mhrifysgol Goldsmith, Llundain, dyw hi erioed wedi symud i ffwrdd ac fe briododd â bachgen lleol aeth i'r un ysgol â hi. Er hynny, mae Christine yn teithio led led y byd gyda'i gwaith ac mae wedi bod i Dde America, Tsieina, ac yn fwy diweddar i Efrog Newydd i fod yn rhan o Ŵyl Werin y Smithsonian. Mae ei syniadau'n addysgu'r cyfrwng y mae'n ei ddefnyddio yn hytrach na'r ffordd arall ac felly mae'n gweithio mewn amryw o gyfryngau. O ddeunydd sydd wedi'i ail-gylchu i wlân o'r fferm deuluol. Yn ddiweddar, mae wedi dechrau darn yn cofnodi marchnad Y Trallwng ar ffilm. Mae tirlun Cymru, yr iaith, ei diwylliant a'i phobl, i gyd yn ysbrydoli ei gwaith.
David Oliver - Hanesydd
Aeth David Oliver i ysgolion cynradd ac uwchradd Llanfair Caereinion ac mae wedi bod yn aelod o'r Clwb Ffermwyr Ifanc lleol ers y pymtheg mlynedd diwethaf. Mae wedi bod yn gadeirydd ar y clwb dair gwaith ac er ei fod yn parhau'n aelod, mae wedi camu o'r neilltu i roi cyfle i aelodau eraill y clwb. Mae David yn gweithio i'r Fenter Iaith leol yn y Drenewydd a hefyd ar fferm ei dad lle mae'n rhoi help llaw i ofalu am y Cobiau Cymreig. Bydd David yn tywys Iolo o gwmpas rhai o dirnodau difyrra'r dref gan ddechrau yn yr Institute.
Gill Evans - Iachäwr Sain
Chwe blynedd yn nôl, ymwelodd Gill Evans ag iachawr reiki a broffwydodd y byddai Gill hefyd yn dod yn iachawr. Roedd y bennod honno yn drobwynt yn ei bywyd ac wedi iddi feistroli'r grefft o reiki, aeth yn ei blaen i weithio gyda sain. Mae hi nawr yn ymarfer iachâd sain yn broffesiynol ac yn addysgu pobl sy'n hyfforddi i fod yn iachawyr sain. Mae Gill yn gweithio gyda'i llais ei hun a gydag amrywiaeth o ddrymiau crwyn anifail a bowlenni metel sy'n cynhyrchu synau a dirgryniadau gwahanol. Ei hoff ddrwm yw un y mae wedi creu ei hun o groen elc. Ffermwr yw gŵr Gill ac mae e wedi dod i gredu yn y grefft wedi iddi lwyddo i achub un o'i ŵyn oedd wedi'i geni gyda chefn sigl ac yn methu cerdded. Dros gyfnod o wythnos, treuliodd Gill rhyw hanner awr bob dydd, yn defnyddio'r iachâd sain ar yr oen a'i fam. Ar ddiwedd yr wythnos roedd yr oen yn gallu aros ei draed, a chyn hir roedd yn cerdded unwaith eto.
Linda Griffiths - Cantores
Yn gyn disgybl yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion, magwyd y gantores Linda Griffiths ar fferm leol rhwng Meifod a Phont Robert. Daeth llawer iawn o ysbrydoliaeth ei chaneuon hi o'r fagwraeth wledig gafodd hi yn yr ardal hon. Bu'n aelod pwysig iawn o'r byd canu gwerin yng Nghymru am fwy na thrideg o flynyddoedd, ac mae wedi rhyddhau dwsin o albymau cerddoriaeth gwerin traddodiadol a chyfoes, gan berfformio fel rhan o'r grŵp gwerin Plethyn a hefyd fel artist unigol. Yn debyg iawn i Eleri Mills, derbyniodd Linda hefyd wahoddiad i Ŵyl Werin y Smithsonian yn Efrog Newydd ac fe deithiodd yno gyda'i merch Lisa.
Bydd Linda'n hel atgofion drwy fynd â Shân am daith drwy'r caeau lle bu'n troedio pan oedd yn blentyn, ac â'i hysbrydolodd hi i ysgrifennu'r gân 'Ôl Ei Droed' - cân a ysgrifennwyd fel teyrnged i'w diweddar dad.
Siân James a Pharti Cut Lloi
Wedi'i geni a'i magu yn y fro, mae Siân James fwyaf adnabyddus am greu ei cherddoriaeth ei hun. Er hynny, am y chwe blynedd ddiwethaf mae hefyd wedi bod ar waith yn trawsffurfio grŵp o ddynion lleol - ffermwyr yn bennaf - i fod yn gôr arbennig. Mae Parti Cut Lloi yn grŵp o 20 o ddynion o ardal Dyffryn Banw a ffurfiwyd yn wreiddiol i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2003. Cafodd y grŵp gryn lwyddiant yn yr ŵyl gan ennill y wobr gyntaf yn y cystadleuaeth i'r partïon gwerin. Wedi'r llwyddiant yma, daeth cynigion niferus iddyn nhw i gynnal cyngherddau led led Cymru. Mae'r traddodiad o ganu carolau Plygain yn rhan bwysig o hanes a diwylliant ardal Sir Drefaldwyn ac fe ganwyd carolau plygain yn draddodiadol gan ddynion lleol yn gynnar ar fore dydd Nadolig.
Steffan Harri - Gôl-geidwad a chanwr
Mae Steffan Harri yn Brif Fachgen yn Ysgol Uwchradd Caereinion ac mae'n hoff iawn o chwaraeon. Fe fu'n chwarae pob math o gampau ond fe dynnodd ei angerdd ef i bêl-droed ac fe ddechreuodd drwy chwarae yn safle'r gôl-geidwad i dîm lleol yn Llanfair Caereinion. Gwelodd sgowt o dîm Everton cymaint o dalent oedd gan Steffan yn y gamp, gan ei hudo i chwarae i'r tîm o dan 18 oed. Ond wedi cyfnod yn chwarae bu'n rhaid i Steffan roi'r gorau iddi oherwydd problemau iechyd. Fe wellodd ac mae bellach yn chwarae pêl-droed i dîm dan 18 oed canolbarth Cymru. Mae hefyd yn aelod o dîm yr ysgol a gurodd holl ysgolion eraill Cymru i gipio Cwpan y Bencampwriaeth. Nid yw talentau Steffan wedi'i cyfyngu i'r cae pêl-droed. Roedd hefyd yn berfformiwr arbennig yn Eisteddfod yr Urdd y llynedd gan ennill cystadleuaeth yr Unawd allan o Sioe Gerdd o dan 19 oed. Ers ennill y gystadleuaeth honno mae wedi derbyn gwahoddiad i berfformio yn Disneyland Paris yn 2010.
Vivian Jones - Steilydd gwallt
Cafodd Viv Jones ei geni a'i magu yn Llanfair Caereinion ond yn yr union adeilad lle mae hi'n byw ac yn gweithio. Mae'r adeilad bach hynod wedi'i osod yn ôl oddi ar y siopau eraill yn y stryd ac fe'i adeiladwyd yn 1797 gan swyddog o'r llynges a ddefnyddiodd bren oedd yn cael ei gymryd fel deunydd gwastraff ar longau. Siop crud oedd y gweithle ar un adeg tan i rieni Viv brynu'r adeilad a'i droi'n fecws a siop. Wedi i'w rhieni ymddeol, symudodd Viv yn nôl i'r adeilad gan agor ei salon trin gwallt ei hun. Mae yna dair siop trin gwallt yn y dref fechan i gyd, ond dydy Viv byth yn brin o gwsmeriaid. Mae'n adnabod pawb ac maen nhw'n ei hadnabod hithau. Mae ei chwsmeriaid selog yn disgrifio'r salon fel y ganolfan ymwelwyr lleol lle maen nhw'n gallu cael cyngor a hel clecs, yn ogystal â chael steil gwallt newydd sbon.