Bro Llandysul
Pigion Bro
- Pigion Bro
Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i fro Llandysul a Phont Tyweli yn ne Ceredigion.
Y melinau gwlân oedd prif gyflogwyr yr ardal ar un adeg ac roedd yr afon Teifi yn arfer gyrru'r melinau dŵr lleol - ond pysgotwyr a rhwyfwyr canŵ sy'n cael eu denu i'r dref fach hamddenol hon bellach.
Menna Elfyn
Mae Shân yn cael ei thywys o gwmpas tref Llandysul gan yr awdur a'r bardd lleol, Menna Elfyn. Fe anwyd Menna ym Mhontardawe ond mae wedi byw yn ardal Llandysul ers sawl blwyddyn bellach.
Maen nhw'n ymweld ag Eglwys San Tysul sy'n dyddio nôl i'r drydedd ganrif ar ddeg. Bydd Shân yn clywed am sut y mae'r plwyf yn dyddio nôl i ddyddiau cynharaf Cristnogaeth yng Nghymru a Sant Tysul o'r chweched ganrif. Bydd hefyd yn clywed am y traddodiad lleol o ddathlu dyfodiad Yr Hen Galan ar Ionawr 13 a sut y gwnaeth plwyfi Llandysul a Llanwenog chwarae math hynafol ond peryglus o bêl-droed o'r enw'r Cnapan, ymhell i mewn i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Gwasg Gomer
Bydd Iolo'n ymweld ag un o fusnesau amlycaf Llandysul, Gwasg Gomer, sydd wedi'i leoli ar gyrion y dref. Sefydlwyd y cwmni yn 1892 ac mae'n dal i fod yn eiddo i'r un teulu hyd heddiw.
Gwasg Gomer yw tŷ cyhoeddi mwyaf Cymru ac mae'n argraffdy llewyrchus a phrysur hefyd. Dyma'r unig gwmni yng Nghymru sy'n gallu cwblhau'r broses o roi llyfr at ei gilydd yn yr un lle. Bydd Iolo'n cyfarfod â rhai o'r cymeriadau sy'n gweithio yno i sicrhau bod rhai o'n llyfrau mwyaf poblogaidd yn cyrraedd y siopau.
Len 'Fish' Smith
Un o gymeriadau adnabyddus ardal Llandysul yw Len Fish sy'n treulio'i ddiwrnodau yn dosbarthu ac yn gwerthu pysgod o'i fan yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Mae wedi bod wrthi'n gwerthu pysgod ers 30 mlynedd, a chyn hynny, roedd yn gweithio yn y diwydiant gwlân am flynyddoedd.
Bydd Iolo'n sgwrsio â Len wrth iddo gyrraedd canol tref Llandysul i werthu ei bysgod.
Shân mewn canŵ
Bydd Shân yn mentro draw i ganolfan ceufadu Llandysul i gyfarfod Nick Bates sy'n gweithio yno. Bydd Shân yn cael gwers ar sut i rwyfo canŵ, cyn mentro i lawr rhaeadrau ffyrnig yr afon yn ei chwch bach.
Rhys Tom Williams - Paffiwr
Mae Rhys Tom Williams yn fachgen lleol 18 oed o Landysul sydd ar hyn o bryd yn gweithio fel saer coed. Ond yn ei amser sbâr mae'n paffio.
Dechreuodd baffio bedair blynedd yn ôl fel rhan o'i gwrs chwaraeon ar gyfer TGAU ac erbyn hyn mae wedi bod yn bencampwr Cymru ac Ewrop ac mae ganddo ddwy fedal arian ar safon Brydeinig. Mae'n hyfforddi tair gwaith yr wythnos mewn campfa yng Nghaerfyrddin, ynghyd ag ymarfer a hyfforddi adref.
Iolo sy'n galw draw i'w weld e'n ymarfer yn ei gartref ar gyrion Llandysul.
Kees Huysmans - Waffles Tregroes
Mae Shân yn mentro dros y bont yn Llandysul i bentref Pont-tyweli lle mae'n cyfarfod â Kees Huysmans - rheolwr gyfarwyddwr cwmni Wafflau Tregroes. Daw Kees yn wreiddiol o'r Iseldiroedd ond symudodd i Gymru yn 1981 a sefydlodd gwmni Wafflau Tregroes yn 1983.
Erbyn heddiw, mae'r cwmni'n cynhyrchu hyd at 4,000 waffl yr awr ac yn cyflogi deuddeg o staff yn eu popty yn Llandysul.
Gwyneth Ayers a Thîm Hoci Merched Llandysul
Mae Iolo'n galw draw i Ganolfan Hamdden Llandysul - cartref tîm hoci Llandysul. Mae tua ugian o ferched o'r ardal gyfagos yn dod yma bob wythnos i ymarfer eu sgiliau hoci bob nos Fawrth yn y ganolfan, ac mae pymtheg ohonyn nhw'n chwarae gemau cystadleuol ar ddyddiau Sadwrn.
Bydd Iolo'n sgwrsio â Gwyneth Ayers am y tîm a'i lwyddiant, cyn caniatáu Iolo i ymuno yn y sesiwn hyfforddi.
John Jones - Telynau Teifi
John Jones yw prif gyfarwyddwr cwmni Telynau Teifi. Sefydlwyd Telynau Teifi yn 2004 fel busnes cymunedol gyda bwrdd o gyfarwyddwyr gwirfoddol o'r ardal leol. Mae Telynau Teifi nawr yn cynhyrchu 3 math gwahanol o delyn, gyda thelyn pedalau yng nghanol ei ddatblygu, fydd yn golygu y byddan nhw wedyn yn cynhyrchu pedwar math o delyn ac mae wyth aelod o staff yn gweithio yno.
Shân sy'n galw draw i'r ganolfan i sgwrsio gyda John am bwysigrwydd y ganolfan i'r ardal.