Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro -Llannerch-Y-Medd

Yr wythnos hon, Shân ac Iolo yn mynd i bentref tawel Llannerch-y-Medd yng nghrombil Sir Fôn. Roedd unwaith yn gartref i gruddion di-ri, melinau blawd a marchnad da byw pwysig oedd yn gwerthu ac yn gyrru anifeiliaid ar draws Cymru a Gogledd Lloegr. Mae Shân ac Iolo yn dod ar draws hanes diddorol yr ardal ac yn cwrdd â phobl leol sy'n dod â chymeriad i'r pentref.

Beth Cowell - Cymdeithas Cŵn Hela Abwyd Môn

Beth CowellYn wreiddiol o Fwcle yn Sir y Fflint, Beth Cowell yw Cadeirydd Cymdeithas Cŵn Hela Abwyd Môn ac mae'n byw yn ardal Llangefni. Arferai fod yn rheolwr campws Coleg Menai yn Llangefni, ond erbyn hyn, mae'n ddarlithydd y Cyfryngau yno. Fe ddechreuodd hela abwyd rhyw 15 mlynedd yn ôl pan ddechreuodd ei merched gael gwersi marchogaeth. Maen nhw'n cwrdd bron bob dydd Sadwrn rhwng canol Medi a mis Ionawr i hela, ac fe fydd Shân yn ymuno â nhw ar gefn ceffyl i weld beth yn union sy'n mynd ymlaen.

Gwen McCreadie - Deri Môn

Tom JonesGwraig fferm yw Gwen McCreadie ac mae'n briod â David sy'n wreiddiol o'r Alban. Mae'n rhedeg llety Gwely a Brecwast ar y fferm, ynghyd â siop sy'n gwerthu cynnyrch wedi'i fygu. Mae ganddyn nhw beiriannau mygu mewn adeilad ar eu fferm. Sefydlwyd y mygdy tua chwe blynedd wedi i ffrind i'r teulu storio ei beiriant mygu ar y fferm.

Dechreuodd David a Gwen arbrofi gyda'r peiriant, ac mae ganddyn nhw fusnes llwyddiannus erbyn hyn. Bydd Iolo'n galw draw i glywed mwy am y busnes ac i flasu'r cynnyrch y maen nhw'n ei fygu ar y fferm.

Brian a Ffiona Thomas - Beef Direct

Brian a Ffiona ThomasBrian a Ffiona Thomas yw perchnogion cwmni gwerthu cig Beef Direct sydd wedi'i leoli yn Llannerch-y-Medd. Mae ffermio wedi bod yn nheulu Brian ers cenedlaethau, ac mae ef a'i dad, OG Thomas sy'n 88 oed, yn magu gwartheg duon Cymreig ar y fferm.

Mae gan Brian a Ffiona uned brosesu cig ar fferm Plas Coedana ac maen nhw'n gwerthu'r cig i fusnesau lleol yn ogystal â mentro dros Glawdd Offa i werthu'r cynnyrch mewn marchnadoedd ffermwyr.

Shân fydd yn mynd draw i fferm Plas Coedana i sgwrsio gyda Brian Thomas.

Donald Glyn Pritchard - Hanesydd

Donald Glyn PritchardMae Donald Pritchard yn gyn-brifathro ar yr ysgol leol ac wedi bod yn byw yn Llannerch-y-Medd ers 1971. Mae ei ddiddordeb mewn hanes yn deillio o'r hen straeon arferai ei fam eu hadrodd iddo pan oedd yn blentyn.

Mae'n mynd ag Iolo am daith hanesyddol drwy Lannerch-y-Medd gan ddechrau yn yr Hen Orsaf Drên fu unwaith yn fan canolog yn y pentref oherwydd fe'i defnyddiwyd i gludo anifeiliaid o'r farchnad i drefi pell fel Lerpwl a Manceinion. Mae'r trenau wedi hen stopio rhedeg, ond mae'r hen orsaf wedi ei hadnewyddu ac maen nhw'n cynllunio gosod arddangosfa yno.

Fe fydd y daith hanesyddol yn gorffen ar y Foel lle mae dau adeilad oedd yn eiddo i'r RAF yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Un tŷ, lle'r oedd milwyr a gweithwyr yn cysgu, ag un tŵr radio, a arferai dywys awyrennau Americanaidd i faes awyr Mona.

Geraint Jones

Geraint JonesWrth grwydro strydoedd Llannerch-y-Medd, bydd Shân yn cwrdd â Geraint Jones - bardd lleol sydd wedi creu englyn arbennig ar gyfer Shân a Bro.

John Llewelyn Pritchard a Llewod Amlwch

John Llewelyn Pritchard a Llewod AmlwchCaiff Shân y cyfle i gyfarfod â John Llewelyn Pritchard a chriw tîm pêl-droed anabl Llewod Amlwch.

Mae bechgyn a merched yn dod o bob rhan o Ynys Môn i ymarfer gyda'r tîm. Maen nhw'n ymestyn o 15 i 40 oed. Anabledd dysgu sydd gan y rhan fwyaf, yn hytrach nag anabledd corfforol. Mae yna ddau ddosbarth anabledd yn hyfforddi gyda'i gilydd ond yn chwarae ar wahân wrth gystadlu mewn twrnamaint. Maen nhw'n cystadlu yng nghynghrair y New Festival League - cynghrair lle mae chwe charfan anabl o Ogledd Cymru yn cystadlu ac yn cymryd eu tro i gynnal y twrnamaint.

Linda Jones

Linda JonesMae Linda Jones yn gasglwraig a hanner - o esgidiau!

Caiff ei hadnabod yn lleol fel Linda'r 'Hafod', ac arferai gystadlu mewn eisteddfodau gan ddod yn llwyddiannus yn aml. Mae erbyn hyn yn beirniadu yn eisteddfodau'r Urdd ac yn perfformio o dro i dro mewn cyngherddau.

Mae gan Linda dros ddeg-ar-hugain par o boots ac yn agos at gan par o esgidiau - i gyd yn stiletos. Mae hyd yn oed yn gyrru mewn pâr o esgidiau â sawdl tair modfedd, ac mae sawdl ar ei Wellingtons Burberry hefyd. - dyma beth mae'n eu gwisgo i fwydo'r ceffylau. Bydd Shân wrth ei bodd yn trafod y casgliad o esgidiau yng nghwmni Linda.

Lloyd Jones – Melin Llynnon

Mae Iolo'n galw draw i Felin Llynnon, i gyfarfod â'r melinwr Lloyd Jones. Roedd Melin Llynnon yn felin oedd yn gweithio'n llawn nes i storm fawr ei difrodi yn 1918. Bu'n sefyll fel adfail nes i'r Cyngor brynu'r felin yn 1978 a threulio wyth mlynedd yn ei hatgyweirio. Cafodd Lloyd ei hyfforddi i weithio'r felin gan arbenigwyr, ac o fewn tair blynedd, roedd yn rhedeg y felin. Mae Lloyd wedi bod yn y felin ers deg mlynedd bellach ac mae'n cyflogi pedwar arall i'w helpu i greu blawd gwenith cyflawn organig gan ddefnyddio technegau traddodiadol. Mae'r blawd, ac weithiau'r bara yn cael ei werthu'n lleol, ond mae'n anodd cyflenwi poptai oherwydd yr arddull o weithio â llaw - a'r gwynt wrth gwrs. Er hyn, fe gynhyrchodd y felin bum tunnell o flawd y llynedd.

Nia Thomas

Cafodd Nia Thomas ei magu'n lleol ar fferm yn Llannerch-y-Medd. Bu'n gweithio am gyfnodau byrion gyda'r BBC yn Aberystwyth a Chaerdydd, ond dychwelodd i Lannerch-y-Medd i fyw gyda'i gŵr, Gwyndaf. Erbyn heddiw, mae'n cyd-gyflwyno'r Post Cyntaf ar Radio Cymru bob bore o Fangor.

Bydd Iolo'n galw draw i fferm Nia i'w gweld yn gadael y gwyddau allan am y dydd, ac i glywed am yr hyn sydd mor arbennig am ardal Llannerch-y-Medd.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales