Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro - Bro Cernyw

Yr wythnos hon, mae Iolo a Shân yn ymweld ag ardal Bro Cernyw yng ngogledd Cymru. Fe grëwyd yr enw Bro Cernyw ym 1969 gydag adeiladu'r ysgol newydd yn Llangernyw. Mae'r ardal yn cynnwys pentrefi Llangernyw, Pandy Tudur a Gwytherin. Mae tair afon yn llifo drwy'r ardal sef Collen (Llangernyw), Derfyn (Pandy Tudur), a Cledwen (Gwytherin). Maen nhw'n ymuno gyda'i gilydd yn Llangernyw, ac yno aeth Shân ac Iolo i gyfarfod rhai o gymeriadau'r fro hon.

Gaenor Roberts - Tlws

Gaenor RobertsBydd Iolo'n cael cyfle i ddysgu sut i greu gemwaith o bob math gan ddefnyddio deunyddiau amrywiol yng nghwmni Gaenor Roberts yn siop Tlws, Abergele. Sefydlwyd Tlws ym mis Awst 2005 ar fferm y perchennog yn Llanfair Talhaearn. Mae cwmni gemwaith Tlws yn mentro i dir newydd drwy greu eu gemwaith eu hunain. Mae amrywiaeth eang o emwaith, ond yn bennaf byddan nhw'n disgyn i dri chasgliad pendant. Yn gyntaf - Tlysau - sef gemwaith wedi'i wneud trwy ddefnyddio deunyddiau naturiol fel cerrig-emau, pren a chregyn neu ddeunyddiau diddorol eraill fel crisialau Swarovski a cherameg. Yr ail gasgliad fydd Sglein, sef gemwaith gwydr unigryw, a'r trydydd yw Eco Tlws sef gemwaith wedi'i wneud o wydr a deunyddiau eraill wedi'i ailgylchu. A fydd Iolo'n cael syniadau am anrhegion Nadolig delfrydol yma tybed?

Tom Jones - Auto Risk Solutions

Tom JonesBydd Iolo'n teithio mewn car gyda Tom Jones gan glywed am ei brofiadau difyr yn gyrru dros y blynyddoedd. Yn dilyn gweithio i'r heddlu - gan gynnwys gweithio ar hofrennydd - aeth Tom ati i fod yn hyfforddwr gyrru am gyfnod.

Yna, tua dwy flynedd a hanner yn ôl, dechreuodd Tom ei fusnes ei hun yn canolbwyntio ar Iechyd a Diogelwch ar y ffordd - Auto Risk Solutions. Mae Tom wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi moduron yr heddlu sy'n cludo pwysigion fel y teulu Brenhinol ac mae wedi gyrru car fel prawf ar ran Top Gear.

Mae Tom hefyd wedi cynorthwyo adeg priodas y Tywysog Charles a Diana ac wedi hyfforddi dyn dall i yrru beic modur a char rasio. Bydd Iolo'n derbyn cyngor gan Tom ar sut i yrru'n ofalus.

Heulwen Ann Roberts - Hanesydd lleol

Ffermio yw gwaith beunyddiol Heulwen, ond hanes sy'n mynd â'i hamser hamdden. Bydd Iolo'n cael cyfle i ddysgu mwy am hanes Bro Cernyw yn ei chwmni. Mynwent Eglwys Sant Digain, Llangernyw yw cartref un o'r pethau byw hynaf sy'n bodoli yng Nghymru, sef coeden ywen enfawr. Mae botanegwyr yn credu bod y goeden hon dros 3,000 o flynyddoedd oed.

Chwedl sy'n gysylltiedig â phentref Gwytherin yw chwedl Gwenffrewi gan fod eglwys y pentref wedi ei henwi ar ei hôl. Bydd Iolo'n dysgu mwy am hanes Gwenffrewi hefyd. Mae Pandy Tudur yn ardal wledig, amaethyddol sydd wedi ei leoli ar lan afon Derfyn. Dros y blynyddoedd mae'r pentref wedi cael llawer o enwau gwahanol a Heulwen sy'n dweud mwy am yr hanes wrth Iolo.

Geraint Roberts - Saer cerrig beddau

Geraint RobertsDaw Iolo o hyd i Geraint Roberts yn ei weithdy yn Llangernyw wrth iddo ymarfer canu'r organ ar gyfer perfformio yn y dafarn leol yn Llanfair Talhaearn. Saer cerrig beddau yw Geraint a bydd Iolo'n dysgu mwy am y grefft y teulu.

Bydd Iolo'n dysgu am y broses o greu cerrig beddau amrywiol a chaiff wybod sut mae Geraint wedi gweld newid yn ei waith dros y blynyddoedd gyda dyfodiad peiriannau modern a sut mae creu'r engrafiad ar y cerrig beddau yn haws ac yn gynt o lawer erbyn heddiw.

Gwenfai Rees Griffiths - Clytwaith a Chwiltio

Gwenfai Rees GriffithsShân sy'n cael y profiad o gynorthwyo i greu cwilt go arbennig yng nghwmni Gwenfai Rees Griffiths ac aelodau'r dosbarth clytwaith a chwiltio Llangernyw.

Bu ond y dim i'r grefft o gwiltio a chreu clytwaith ddiflannu o'r tir yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ond mae dosbarthiadau ar hyd a lled y wlad erbyn hyn a Gwenfai sydd yn rhedeg dosbarthiadau clytwaith a chwiltio ardal Llangernyw a'r cylch.

Mae'r merched yn gweithio ar brosiectau unigol a bydd Gwenfai yn eu helpu i wneud hyn. Erbyn hyn maen nhw i gyd yn gweithio i safon uchel, ac wedi cynhyrchu llawer o eitemau. Byddan nhw hefyd yn cystadlu yn llwyddiannus mewn cystadlaethau lleol. Mae Gwenfai ei hun yn enillydd rhyngwladol a chaiff Shân gyfle i ddysgu mwy am y grefft o gwiltio a thrafod un o gwiltiau llwyddiannus Gwenfai.

Genod y Gân o dan arweiniad Ceri Llwyd

Genod y GânMae Ceri Llwyd yn wraig brysur iawn yng nghymuned Bro Cernyw. Ceri yw adweinyddes frwdfrydig a byrlymus Genod y Gân, sef grŵp o ferched sydd wrth eu bodd yn canu. Shân sy'n ymuno â'r criw i gael sgwrs yn y dafarn leol, Yr Hen Hydd, ar ôl eu hymarfer.

Mae Genod y Gân wedi eu sefydlu ers chwe' mlynedd a daethant yn ail yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Bala eleni. Daw aelodau'r côr o bentrefi cyfagos fel Llanfair Talhaearn, Llansannan, Llanefydd, Betws yn Rhos, Llanrwst, Pandy Tudur a Gwytherin.

Mae'r merched yn canu mewn cyngherddau lleol yn aml ac yn hoffi canu ar lwyfan y Noson Lawen hefyd. Mae Shân yn profi bod y merched yn griw sy'n gwybod sut i fwynhau a chael hwyl a sbri!

Dewi Roberts - Hen dractorau

Dewi RobertsShân sy'n cael y cyfle i ddysgu mwy am hen dractorau ar Fferm Dolfadyn yng nghwmni Dewi Roberts sy'n berchen ar gasgliad o wyth tractor. Mae rhain yn eu cyflwr gwreiddiol ac yn cael eu defnyddio fel peiriannau gweithio.

Bydd Shân yn clywed pam bod y tractorau mor arbennig a beth yw hanes ambell un o'i ffefrynnau. Mae Dewi'n hoffi cadw'r tractorau yn eu cyflwr gwreiddiol yn hytrach na'u peintio a'u trin, ond daw Shân o hyd i un tractor arbennig iawn, tractor coch sgleiniog a chaiff gyfle i fynd am dro gyda Dewi o gwmpas y fro ar gefn y tractor.

Eleri Wynne a chriw Aelwyd Bro Cernyw - Dawnsio Salsa

Eleri Wynne and Aelwyd Bro Cernyw’s gangEleri yw Cadeirydd Genod y Gân ac mae wrth ei bodd yn canu, ond mae wrth ei bodd hefyd yn dawnsio salsa ac yn mynychu gwersi yn aml. Fel cyn aelod o'r aelwyd, mae Eleri'n dod nôl i roi gwers dawnsio salsa i'r aelodau presennol a chaiff Shân gyfle i ddysgu rhai o'r camau a'r symudiadau yng nghwmni'r ieuenctid. Mae Aelwyd Bro Cernyw'n ymgynnull yng Nghanolfan Addysg Llangernyw yn wythnosol lle mae rhwng 40 a 50 o aelodau'n cael cyfle i flasu amrywiaeth o weithgareddau gwahanol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales