Bro Treforys
Pigion Bro
- Pigion Bro
Un o faestrefi dinas Abertawe yw Treforys. Mae'n dref fywiog, yn enwog am ei chorau meibion, cymuned chwaraeon a llu o bobl leol ddiddorol neu'r Morriston Monkeys fel y maen nhw'n cael eu galw.
Wedi'i enwi ar ôl ei sylfaenydd, Syr John Morris, mae gan Dreforys hanes arbennig fel un o bentrefi diwydiannol cynta' Cymru. Mae'r eglwys hynod yng nghanol y ffordd yn un o sawl adeilad crefyddol yn y dref, ac un o'r enwoca' ohonyn nhw yw Capel Tabernacl - sy'n cael ei gyfeirio ato'n aml fel Cadeirlan Anghydffurfiaeth answyddogol Cymru. Bydd Iolo Williams a Shân Cothi'n ymweld â'r ardal arbennig hon i ddod i adnabod yr ardal trwy'r hanes, y tirlun a'r bobl ddiddorol sy'n byw yma.
Rhian Williams - Hanesydd
Mae Rhian wedi byw yn Nhreforys drwy'i bywyd, ac yn aelod gweithgar yn y gymuned.
Mae'n ddarlithydd yn y Gymraeg, yn Aelod o Orsedd y Beirdd ac yn un o sylfaenwyr Cymdeithas Hanes Treforys. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Gôr Merched Treforys am ugain mlynedd ac yn aelod cyson o Gapel Tabernacl.
Hywel Davies - Caiacydd
Yn enedigol o Gwm Tawe, mae Hywel yn ei dridegau hwyr ac yn gweithio yn yr amlosgfa yn Nhreforys, ond mae hefyd yn aelod o glwb Kayak Tawe.
Fel arfer, mae Hywel a'i ffrindiau yn mentro allan i'r afonydd yng Nghwm Tawe, ond yng Nghored Treforys y mae Iolo'n cyfarfod ag ef a'i gyd-rwyfwyr wrth iddyn nhw ymarfer ar y dŵr.
Wynford Harris a Gwynne Lewis - Clwb Rygbi Treforys
Mae Wynford a Gwynne yn Morriston Monkeys go iawn gan iddyn nhw dreulio'u bywydau yn byw yn yr ardal hon. Mae'r ddau ohonyn nhw wedi ymwneud â'r clwb ers eu harddegau ac mae Wynford wedi bod yn Is-Gadeirydd am yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Mae'r clwb yn darparu hyfforddiant i bob math o chwaraewyr - o blant dan 6 oed hyd at oedolion, ac ar hyd y blynyddoedd mae'r clwb wedi gweld sêr go iawn yn dringo i'r uchelfannau, gan gynnwys Tony Clement a'r brodyr Moriarty.
Lowri Davies - Meddyg anifeiliaid
Mae Lowri yn cynnig triniaethau amgen i gŵn a cheffylau fel aciwbigo (acupuncture) a hydrotherapi. Fe sefydlodd Lowri'r clinig dros bedair blynedd yn ôl, ac ar y pryd hwn oedd yr unig glinig o'i fath ym Mhrydain.
Erbyn hyn, mae hi wedi agor clinig yng Nghaerdydd hefyd ac mae ambell i glinig tebyg ledled Prydain. Un o Geredigion yw Lowri yn wreiddiol ond mae hi wedi byw yn ardal Treforys am rai blynyddoedd. Bydd Iolo'n galw draw i'w gweld yn y clinig.
Jessica Rees - Tatŵydd
Flwyddyn ar ôl ei agor, mae Stiwdio Tatŵs Iron Horse yn fusnes llewyrchus ar stryd fawr Treforys - Stryd Woodfield. Yma mae Jessica Rees wedi bod yn hyfforddi i fod yn datŵydd am y flwyddyn ddiwethaf ac unwaith y bydd hi'n dathlu ei phen-blwydd yn 18 oed yn yr Hydref, mae'n bwriadu dechrau ar ei gyrfa fel arlunydd tatŵs proffesiynol.
Mae hi eisioes wedi cynllunio rhai tatŵs ac mae hawl ganddi i gyflawni rhai tyllau ond tan ei phen-blwydd, mae'n rhaid iddi gyfyngu'i gwn tatŵs i orennau, croen synthetig a chroen mochyn.
Ceri Phillips - Actor
Mae Ceri'n 17 mlwydd oed ac wedi byw yn Nhreforys ar hyd ei oes. Mae Ceri wastad wedi ymddiddori mewn action, comedi yn bennaf, ac mae'n ysgrifennu comedi hefyd.
Mae wedi gwneud tipyn o stand up Cymraeg yn lleol ac erbyn hyn, mae Ceri wedi ymddangos yn Two Pints of Lager and a Packet of Crisps, Coming of Age, ac ail gyfres Dau Dŷ a Ni ar S4C. Wrth dyfu fyny yn Nhreforys, mae'n cyfaddef nad oedd y lle mwya' dymunol i fyw, ond mae ganddo atgofion da am barc Treforys.
Gerald Roberts - Big Band Treforys
Mae Gerald Roberts wedi bod yn Gyfarwyddwr Cerddorol Band Mawr Treforys ers 3 blynedd, a bu'n canu'r trymped gyda'r band am bum mlynedd cyn cymryd at yr awenau. Sefydlwyd y band tua deng mlynedd yn ôl gyda hysbyseb yn y papur lleol am fand cymunedol.
Ers hynny, mae'r aelodaeth wedi tyfu a bellach mae yna drawstoriad o offerynnau gwahanol yn y band o gantorion, sacsoffonau, trympedi, trombonau ac adran rhythm. Cafodd y band grant loteri'r llynedd at bwrpas prynu offerynnau a gwisgoedd a fu'n help mawr ar gyfer trefnu eu taith Ewropeaidd flynyddol.
Catrin Sadler a Menna Davies - Adran losgiadau Ysbyty Treforys
Mae'r adran yma yn un o'r rhai gorau ym Mhrydain, ac yn enwog am y gwaith anhygoel yn achub bywydau a'r bobl mae'n helpu i ddygymod â'u hanafiadau.
Mae Catrin yn gweithio fel nyrs yn yr adran losgiadau i blant. Yma mae'r cleifion ifanc yn cael eu trin ar gyfer llosgiadau difrifol ac mae rhai'n dod nôl yn flynyddol i gael triniaeth i ddelio gyda'u hanafiadau.
Mae'r adran blant hefyd wedi sefydlu Dragon's Club sy'n trefnu gweithgareddau misol i blant sydd wedi eu heffeithio gan losgiadau i helpu iddyn nhw ddygymod ac i gymysgu gyda phlant eraill sydd wedi eu heffeithio yn yr un ffordd. Mae Menna'n gweithio yn yr adran ffisiotherapi yn rhoi triniaeth i gleifion sydd wedi dioddef anafiadau llosg. Mae Shân yn ymweld â'r ysbyty i gyfarfod â'r ddwy.