Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Nefyn

Bro Nefyn

Mae tref Nefyn ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn, ac mae 1,228 o bobl yn byw yno. Mae'r harbwr cysgodol, naturiol sydd yma'n golygu fod Nefyn yn dref bwysig iawn yn ei dydd.

Nôl yn 1284, fe ddewisodd y Brenin Edward I gynnal twrnamaint mewn cae yn Nefyn i ddathlu ei fod wedi concro Cymru. Cyn hynny, roedd y Celtiaid hefyd wedi sylweddoli pwysigrwydd daearyddol y dirwedd lleol. O'u caer ar Garn Boduan roedden nhw'n manteisio ar olygfeydd arbennig dros Ben Llŷn - ac yn gallu amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau o'r tir a'r môr.

Mae'r dref yn enwog am ei phenwaig a thraeth prydferth Porth Dinllaen, ac mae dylanwad y môr yn drwm ar hanes ac economi Nefyn ers canrifoedd.

Nellie Trenholm

Nellie Trenholm

Mae Nellie Trenholme yn 92 oed, ac yn un o gymeriadau Nefyn. Bu'n rhedeg salon harddwch a thrin gwallt yn y dref, ac er nad yw'n gwneud hynny rhagor, mae'n dal i drin gwallt ei ffrindiau.

Dilynodd Nellie yn ôl troed ei thad wrth fynd ati i drin gwallt. Fe fu ei thad yn torri gwallt yn seler y tŷ, ac er iddo fynd i'r UDA i weithio fel chwarelwr, roedd e'n dal i dorri gwallt pobl yn ôl yr angen. Bydd Shân yn galw draw yn nhŷ Nellie i cael trin ei gwallt ar ei thaith trwy dref Nefyn.

Gareth Gruffydd - Golffiwr

Gareth Gruffydd

Y golffiwr Gareth Gruffydd yw Mr Golff Nefyn. Mae wedi bod yn bencampwr y clwb dros bymtheg o weithiau ac mae e hefyd wedi dal record yr hen gwrs am 32 o flynyddoedd.

Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae sawl siot 'ddiddorol' gan gynnwys ambell i un sydd wedi golygu bod yn rhaid i Gareth ddringo i lawr y graig at y traeth cyn taro'r bêl yn ôl lan i'r cwrs - a hynny heb fynd dros y 'par'. Bydd Iolo'n ymuno ag ef ar y cwrs golff i geisio ail-fyw rhai o'r profiadau o'r gorffennol.

Gwylwyr y Glannau

Gwylwyr y Glannau

Bydd Iolo'n galw draw i weld tîm Gwylwyr y Glannau Porthdinllaen yn ymarfer. Mae unarddeg o bobl o fewn y tîm. Maen nhw i gyd â swyddi llawn amser ac yn gwirfoddoli fel swyddogion achub.

Mae'r tîm yn cwrdd yn fisol i hyfforddi gyda'i gilydd er mwyn bod yn barod i ymateb i unrhyw alwad gan aelodau o'r cyhoedd - boed yn alwad 999 neu'n alwad ffôn arall gan y cyhoedd am long neu gwch sydd mewn trafferth ar greigiau a thraethau peryglus yr arfordir.

Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn

Owie Roberts o Gymdeithas Pysgotwyr Llŷn

Mae Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn yn griw sy'n dal i ddilyn y traddodiad o daflu eu cewyll cimychiaid, a'u rhwydi, i'r môr. Mae tua 8 cwch sy'n eiddo i aelodau'r gymdeithas yn pysgota ar hyn o bryd.

Eu menter diweddaraf yw pysgota am wichiaid, ond yn anffodus mae'n amhosibl pysgota am wichiaid heb fynd allan i'r môr am y diwrnod cyfan oherwydd eu bod nhw'n byw yn bell o'r lan.

Fe fydd Shân a Iolo yn teithio i draeth Porthdinllaen er mwyn sgwrsio ag Owie Roberts sy'n Ysgrifennydd Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn, a Gruff Williams, Harbwrfeistr Porthdinllaen.

Amgueddfa Nefyn

Amgueddfa Nefyn gyda’ Meinir Jones

Mae Amgueddfa Nefyn wedi ei leoli yn yr hen eglwys yn y dref. Er nad yw'r amgueddfa ar agor ar hyn o bryd, mae casgliad gwerthfawr a diddorol yno. Mae criw o bobl leol, gan gynnwys y Cynghorydd Meinir Jones yn gobeithio ail agor yr amgueddfa. Bydd Meinir yn mynd â Shân am daith o gwmpas yr adeilad i weld rhai o'r trysorau sy'n cael eu cadw yno.

Gwenda Williams - Merch i gyn-gapten llong

Gwenda Williams

Cafodd y capten llong Richard Davies ei gladdu ym Mynwent Nefyn ym 1978. Mae ei ferch, Gwenda Williams yn dal i fyw yng nghartref y teulu ynghanol y dref. Mae ganddi hi stôr o bethau ddaeth ei thad yn ôl adref o'i deithiau ar y môr, gan gynnwys wyau emu o Affrica a doliau o Yokohama yn Siapan.

Ymhlith y lluniau sydd ganddi, mae rhai a dynnwyd gan ei thad ar ddec y Monkbarns - y llong hwylio olaf i gario cargo rownd Yr Horn. Mae'r casgliad yn cynnwys lluniau o'r llong mewn trafferth mewn corwynt yn 1926. Bydd Shân yn galw draw i'r tŷ i weld ei thrysorau unigryw.

Wini Jones Lewis - Arlunydd

Wini Jones Lewis

Roedd Wini a'i gŵr yn rhedeg cartref i'r henoed am rai blynyddoedd yn Morfa Nefyn, ond fe wnaethon nhw benderfynu ei gau ddwy flynedd yn ôl oherwydd ei fod yn waith mor anodd. Mae Wini a'i gŵr bellach wedi trawsnewid eu tŷ yn ystafelloedd tê, lle maen nhw'n gweini bwyd i ymwelwyr. Mae Wini hefyd wedi sefydlu galeri yn gwerthu gwaith celf nifer o artistiaid lleol yn cynnwys ei gwaith ei hun.

Mae Wini'n mwynhau paentio golygfeydd lleol, ond does dim bywoliaeth mewn gwerthu lluniau, felly mae hi hefyd yn athrawes gelf ac yna'n paentio gyda'r nos yn ei stiwdio. Shân fydd yn galw draw i'r oriel i weld Wini wrth ei gwaith.

Elfed Roberts - Siop Londis

Elfed Roberts

Er bod llawer o siopau wedi cau yn nhref Nefyn, mae yna griw o entrepreneurs ifanc yn datblygu. Un ohonyn nhw yw Elfed Roberts sy'n 35 oed ac yn rhedeg siop Londis yn y dref. Mae Elfed yng nghanol datblygu ochr bwydydd lleol i'r siop, ac yn astudio i fod yn gigydd ar gyfer ei fenter newydd.

Eleni daeth yn ail yng nghystadleuaeth siopau gorau Londis trwy Brydain gyfan. Mae'n sôn am ehangu'r busnes ymhellach, ac mae eisioes yn cyflogi 35 o staff - pob un ohonyn nhw'n byw yn y dref. Nefyn yw popeth i Elfed, ac mae Shân yn ymweld â'r siop i gael sgwrs.

Tegid Williams - Hanesydd

Tegid Williams

Mae Tegid Williams yn hanesydd ifanc yn ei ugeiniau, ac yn aelod o staff Amgueddfa Lloyd George yn Llanystumdwy. Mae'n arbenigwr ar hanes y môr a'r math o longau oedd yn hwylio o Nefyn yn y dyddiau a fu.

Bydd Tegid yn mynd â Iolo ar daith hanesyddol o gwmpas tref Nefyn i ddysgu mwy am yr ardal, gan gynnwys y fynwent gyhoeddus lle mae beddau dros 150 o gapteiniaid llongau. Bydd y ddau hefyd yn ymweld â thŵr Pen y Bryn a gafodd ei adeialdu ar gyfer gwragedd a phlant y morwyr fel bod modd iddyn nhw weld pa longau oedd yn y bae ac os oedd golwg o long eu gŵyr neu tadau.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales