Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Wrecsam

Bro Wrecsam

Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i'r gogledd ddwyrain ac i dref Wrecsam - tref fwyaf gogledd Cymru sydd â phoblogaeth o 42,576 o bobl.

Mae Sir Wrecsam ei hun yn ymestyn o fynyddoedd godidog Cymru hyd at ddyffryn Dyfrdwy ac yn ffinio gyda swydd Gaer. Roedd yr ardal hon yn enwog ar un adeg am ei gweithfeydd haearn, brics a'i bragdai cwrw, ond heddiw mae'r dref yn denu nifer o bobl yno i siopa gyda chanolfan newydd Dôl yr Eryrod wedi agor ers tua blwyddyn.

Mae hanes Wrecsam fel tref farchnad yn dyddio'n ôl dros 600 o flynyddoedd ac mae'r marchnadoedd yn dal i fod yn rhan amlwg o'r dref hyd heddiw. Bydd Shân ac Iolo'n crwydro'r strydoedd a'r pentrefi agos i gyfarfod â rhai o gymeriadau mwya' difyr y fro arbennig hon.

Alex Greene - Arbenigwr iaith Klingon

Alex Greene - Arbenigwr iaith Klingon

Mae Alex Greene o bentref Hightown yn Wrecsam wedi bod yn ffan o ffilmiau Star Trek ers rhyddhau'r ffilm gyntaf yn y gyfres ym 1979 ac mae wedi ymddiddori yn yr iaith Klingon ers hynny. Erbyn heddiw, mae yna sefydliad Klingon yn yr UDA ac mae modd hyd yn oed o astudio gradd yn yr iaith. Bydd Shân yn cyfarfod ag Alex yn sinema'r dref wrth iddo baratoi i fynd i weld ffilm ddiweddaraf Star Trek. Bydd hi'n cael gwersi Klingon gan Alex, gan ddysgu hefyd am yr hyn sydd mor arbennig am yr iaith.

Phil Phillips - Hanesydd

Phil Phillips - Hanesydd

Fel arbenigwr ar hanes a threftadaeth Wrecsam mae Phil Phillips, gyda chymorth ei wraig, yn rhedeg cwmni Wrexham Town Trails. Sefydlwyd y cwmni llynedd ac maen nhw'n cynnig teithiau tywys dwyieithog o gwmpas y dref.

Yn ddiweddar, mae Phil wedi ennill gwobr gan Croeso Cymru am y naws a'r awyrgylch y mae wedi llwyddo i greu yn ei deithiau, a'i ddefnydd o'r iaith Gymraeg. Bydd Phil yn tywys Shân ac Iolo o gwmpas rhai o leoliadau amlyca'r dref - gan gynnwys Eglwys plwyf San Silin ac adeiladau'r tair marchnad.

Pol Wong - Arbenigwr Gung fu

Pol Wong - Arbenigwr Gung fu

Bydd Iolo'n teithio i bentref cyfagos Rhiwabon i gyfarfod â Pol Wong - gŵr o dras Tsieiniaidd Cymraeg. Mae Pol yn rhedeg ysgol Chen Loong sy'n cynnig hyfforddiant gung fu a qi gong i oedolion a phlant yn yr ardal.

Dechreuodd Pol hyfforddi pan oedd yn 10 mlwydd oed, ac mae wedi treulio llawer o amser yn dysgu, datblygu ac ymchwilio Gung fu. Mae wedi cael amrediad eang o athrawon a meistri ac fe dreuliodd gryn amser yn astudio mewn teml Shaolin.

Bydd Iolo'n galw draw i'r gampfa yn Rhiwabon i weld Pol wrth ei waith ac i gael tro ar helpu mewn gwers gung fu.

Kay a Stephen Lee - Calon

Kay a Stephen Lee - Calon

Bydd Shân yn galw draw yn nhafarn y Five Crosses rhwng pentrefi Mwynglawdd a Choedpoeth er mwyn cyfarfod â'r pâr priod Stephen a Kay Lee. Mae'r ddau yn gantorion sy'n perfformio o dan yr enw Calon.

Pan roedd y ddau yn ddisgyblion yn Ysgol Morgan Llwyd gofynnodd eu hathro, Aled Lewis Evans, iddyn nhw ganu yn Eisteddfod yr Urdd Bro Maelor yn 1996. Fe ddaeth y ddau yn ffrindiau agos ac yna'n gariadon. Bellach mae'r ddau'n byw ym mhentref Coedpoeth ac mae ganddyn nhw ferch fach 5 oed - Megan.

Mae'r ddau wedi canu gyda'i gilydd ers sawl blwyddyn bellach, ac wedi cael profiadau'n teithio ac yn diddanu cynulleidfaoedd eang gyda chwmnïau gwyliau fel Haven Holidays.

Aubrey Thomas - Meistr Cwch Camlas

Aubrey Thomas - Meistr Cwch Camlas

Ar eu taith o gwmpas yr ardal, bydd Iolo a Shân hefyd yn galw draw i bentref Froncysyllte sef cartref y côr enwog a hefyd cartref pont ddŵr Pontcysyllte - un o brif gampau peirianyddol Thomas Telford. Adeiladwyd y bont rhwng 1795 a 1805 37 metr uwchben afon Dyfrdwy.

Cafodd ei hagor ym 1805 i wella cyswllt trafnidiaeth yr ardal, ac mae heddiw'n un o brif atyniadau twristiaeth Sir Wrecsam, gan ddenu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Eleni cafodd y bont ei chydnabod yn un o safleoedd treftadaeth y byd, gan ddod yn un o 28 o safleoedd ym Mhrydain sydd â'r statws arbennig hwnnw.

Bydd Shân ac Iolo'n teithio ar draws y bont mewn cwch ar y gamlas, gan sgwrsio gydag un o'r capteiniaid llongau, Aubrey Thomas.

Roedd Aubrey yrrwr ambiwlans am 30 mlynedd cyn iddo benderfynodd ei bod hi'n bryd cael; swydd fwy hamddenol. Erbyn hyn, mae wedi bod yn llywio'r cwch ar hyd y gamlas ers tair blynedd yn cludo ymwelwyr drwy'r dyffryn.

Rosemary Ralphes - Arlunydd a dysgwr Cymraeg

Rosemary Ralphes - Arlunydd a dysgwr Cymraeg

Ym Mharc Llwyn Isa' yn Wrecsam y bydd Iolo'n cyfarfod â Rosemary Ralphes, neu "Ro" fel y'i gelwir gan ei ffrindiau. Mae Ro ar hyn o bryd yn astudio cwrs gradd mewn Cymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Mae Ro yn hoff iawn o fyd natur ac mae'n treulio llawer o'i hamser yn gwylio byd natur yn yr ardd gefn adref yn Tallarn Green ar gyrion Wrecsam ac mae ganddi ddiddordeb mewn paentio.

Tirluniau ac anifeiliaid sy'n mynd â'i bryd yn bennaf, ond dydy hi ddim wedi cael llawer o ysbrydoliaeth yn ddiweddar gan ei bod hi'n canolbwyntio ar geisio dysgu Cymraeg.

Bydd Iolo'n cael sgwrs gyda Ro am ei phaentio ac am ddysgu Cymraeg yn Wrecsam.

Spencer Harris a'r teulu - Cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam

Spencer Harris a'r teulu - Cefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam

Un o leoliadau enwocaf tref Wrecsam yw'r Cae Ras, sef cae pêl-droed y dref - lle mae tîm Wrecsam wedi chwarae ers i'r clwb gael ei sefydlu ym mis Medi 1872.

Mae Spencer Harris yn byw yng Nghoedpoeth ger Wrecsam gyda'i wraig Jen a'u plant Emyr, Megan a Mali Elin. Mae Spencer wedi bod yn cefnogi clwb pêl-droed Wrecsam ers yn 3 oed, ac mae'n mynd yno'n gyson i wylio'r gemau gan fod gan y teulu bedwar tocyn tymor.

Mae Spencer hefyd yn gyn-enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn ac yn aelod o fwrdd ymddiriedolwyr cefnogwyr tîm pêl-droed Wrecsam. Mae'n cyflwyno rhaglen radio ar y clwb pêl-droed bob wythnos ar orsaf Calon FM, yr orsaf gymunedol leol.

Bydd Iolo'n cyfarfod â'r teulu yn y Cae Ras ac yn sgwrsio gyda Spencer am y clwb pêl-droed a sefyllfa'r clwb heddiw.

Bugeiliaid y stryd Wrecsam

Sue Allen - Bugeiliaid y stryd Wrecsam

Wrth iddi nosi yn Wrecsam, mae strydoedd y dref yn troi'n ferw gwyllt wrth i bobl o bob rhan o ogledd Cymru a thu hwnt deithio i ganol tref Wrecsam ar gyfer noson allan.

Ond tra bod y rhan fwyaf o'r bobl yno i fwynhau ac ymlacio, mae yna un criw o bobl sy'n gorfod gweithio tan oriau man y bore - a hynny'n wirfoddol hefyd - sef criw Bugeiliaid y Stryd.

Prif nod Bugeiliaid y Stryd yw dod â chariad Duw i'r gymuned, ac er bod y ffydd Gristnogol yn rhan ganolog o'r hyn maen nhw'n ei wneud, nid pregethu yw eu bwriad, ond gofalu, gwrando a helpu.

Mae Sue Allen yn un o'r 15 o wirfoddolwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant yn Wrecsam. Daw Sue o Wolverhampton yn wreiddiol, ond wedi symud i Gymru, fe benderfynodd ei bod hi'n bwysig iawn i ddysgu'r iaith er mwyn medru cynorthwyo a chyfathrebu â'i merched.

Bydd Shân yn galw draw i'r eglwys yn Wrecsam i'w gweld yn paratoi ar gyfer noson brysur arall, cyn mentro allan ar y strydoedd gyda Bugeiliaid y Stryd i'w gweld wrth eu gwaith.

Gwylio Clip o Bro Wrecsam

Shân Cothi sy'n ymweld ag Ysgol Morgan Llwyd i gyfarfod criw o fechgyn sydd newydd gymryd cyfrifoldeb o osod y papur bro lleol - Y Clawdd.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales