Bro Trefdraeth
Pigion Bro
- Pigion Bro
Yr wythnos hon mae Iolo Williams a Shân Cothi yn teithio i arfordir Gogledd Sir Benfro, ac i dref Trefdraeth neu Tudra'th i'w thrigolion lleol. Mae'r dre'n gorwedd ar aber yr afon Nyfer, o fewn ffiniau'r Parc Cenedlaethol, ac mae Trefdraeth yn un o drefi mwyaf dymunol Sir Benfro.
Mae olion hanesyddol ym mhobman - o adfeilion y Castell Normanaidd, welodd frwydro ffyrnig yng nghyfnod Llywelyn Fawr ac Owain Glyndwr, i'r meini Celtaidd hynafol ym Medd Morys, Pentre Ifan a Charreg Coetan - a'r cyfan dan gysgod chwedlonol mynydd Carn Ingli.
Un o brif atyniadau'r dref erbyn heddiw yw ei thraethau euraidd, ac mae miloedd yn tyrru yma bob blwyddyn i brofi'r hyn sydd gan y fro arbennig i'w gynnig. Bydd Shân a Iolo hefyd yn ymweld â Threfdraeth i gyfarfod â'i chymeriadau.
Nigel a Nerys Richards - Cwmni bysus Brodyr Richards
Mae Shân yn galw draw i bencadlys cwmni bysus Brodyr Richards i gyfarfod â Nigel Richards, un o berchnogion y cwmni. Mae hefyd yn cyfarfod â merch Nigel sef Nerys. Fe basiodd Nerys ei phrawf gyrru bws pan oedd yn 18 oed fel ei bod yn gallu helpu gyda'r busnes teuluol.
Dyw Nerys ddim yn byw yn ardal Trefdraeth erbyn hyn. Mae hi wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel cerddor proffesiynol, er ei bod hi'n parhau i ddod adre weithiau i yrru'r bysus. Mae'n cadw'n brysur iawn - mae hi wedi gweithio ar sioe'r Lion King yn Llundain, cyfeilio i Academi Dennis O'Neill a hefyd wedi gweithio i Opera Cenedlaethol Cymru.
Bydd Shân yn teithio ar fws gyda Nerys wrth iddi fynd â phlant Ysgol Bro Ingli ar daith i Siambr Gladdu Pentre Ifan i ddysgu mwy am ardal Trefdraeth yng nghwmni'r hanesydd lleol, Alun Davies.
Aeres James - Doliau Ŷd
Mae Aeres James wedi bod yn gwneud doliau ŷd ers dros 30 mlynedd, pan ddysgodd y grefft gan un o drigolion eraill Trefdraeth. Fe fydd Aeres yn teithio'n aml i glybiau Merched y Wawr i rannu'r grefft gydag aelodau eraill y mudiad.
Roedd hi'n arfer casglu'r ŷd ar fferm ei brawd, ond erbyn heddiw mae'n ddibynnol ar haelioni ei chymdogion er mwyn gallu gwneud y doliau.
Bydd Shân yn galw draw i weld Aeres wrth ei gwaith ac i gael tro ar blethu dolen ŷd ei hun.
James Evans - Gyrrwr car rali
Bachgen lleol 26 mlwydd oed yw James Evans. Mae'n ymddiddori yn y byd ralio, ac ef sydd hefyd yn gyfrifol am drwsio a gwneud gwaith cynnal a chadw ei gar Mazda.
Mae'n gweithio fel plymwr yn llawn amser, ond yn gweithio ar ei gar bob tro mae'n cael y cyfle. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn rasio yn ifanc iawn, pan oedd yn 13 mlwydd oed, gan fod ei fodryb yn Ysgrifenyddes Clwb Moduro Dyffryn Teifi. Wedi i James droi'n 18 oed, fe ddechreuodd rasio ei hun, ac ers hynny mae wedi cael nifer o lwyddiannau mewn rasys lleol fel Rali Bro'r Preseli, lle ddaeth yn 1af yn ei ddosbarth, ac yn drydydd yn y bencampwriaeth.
Lowri Evans - Cantores
Magwyd Lowri Evans yn Nhrefdraeth, ac wedi 6 mlynedd yn astudio, byw a pherfformio gyda sawl band yn Newcastle upon Tyne, penderfynodd ddychwelyd i fro'i mebyd.
Yn ystod ei chyfnod yn Newcastle, recordiodd ddau albwm gyda'r band Stella, gan chwarae mewn amryw o gyngherddau a gwyliau mawr, gan gynnwys y Leeds Festival.
Wedi iddi ddychwelyd i Gymru, cydiodd yn ei gitâr a dechrau ysgrifennu caneuon ei hun. Ar ôl penderfynu dilyn gyrfa fel cantores unigol gyda'i phiano a'i gitâr, mae wedi perfformio led led Cymru. Enillodd yr ail wobr am berfformio ac ysgrifennu cân yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 2008 gyda'i phartner, Lee.
Heddiw, mae Lowri'n gweithio 4 diwrnod yr wythnos yn y Ganolfan Eco yn Nhrefdraeth fel Ymgynghorydd Ynni Cynaliadwy gan gynghori pobl ar ffyrdd o arbed egni ac arian. Iolo fydd yn galw draw i'w gweld hi yn y ganolfan.
Nica Prichard MBE - Pysgotwr
Mae Nica Prichard yn 71 mlwydd oed, a bu'n byw yn Nhrefdraeth pan oedd yn blentyn, cyn symud i amryw o wahanol lefydd yn Lloegr. Ond dychwelyd i'w gwreiddiau wnaeth hi, a bellach mae wedi bod yn byw yn Nhrefdraeth ers 22 mlynedd gyda'i gŵr. Mae ganddyn nhw 10 o ŵyrion sydd wrth eu boddau'n cael dod i aros atyn nhw yma yng Nghymru.
Dechreuodd Nica bysgota pan oedd hi'n dair blwydd oed. Doedd hi ddim yn hoffi'r mwydod, felly pan oedd hi'n saith mlwydd oed, penderfynodd droi ei golygon at bysgota plu. Roedd ei gŵr yn rhwyfo dros Gymru, ac felly penderfynodd hithau yr hoffai gynrychioli Cymru mewn rhyw fodd hefyd - fe wnaeth hi bysgota dros Gymru am 18 mlynedd.
Mae Nica hefyd wedi chwarae rhan flaenllaw ym mhrosiect Casting for Recovery - rhaglen awyr agored ar gyfer menywod sy'n dioddef o gancr. Bydd Shân yn ymuno â hi am wers bysgota ar lan yr afon Nyfer ger Trefdraeth.
Alun Evans a Haydon Mathias - Golffwyr
Mae Iolo'n mentro draw i Glwb Golff Trefdraeth i gyfarfod Alun Evans a Haydon Mathias - dau golffiwr o fri. Golffiwr proffesiynol 37 oed o Drefdraeth yw Alun, sy'n dysgu golff yn y clwb. Cafodd ei fagu yn Nhrefdraeth, ond symudodd i ffwrdd am ychydig gan weithio yn ardal Radyr, Caerdydd, cyn symud yn ôl i ddysgu yng nghlwb Trefdraeth yn 2001.
Un o ddisgyblion Alun yw Haydon Mathias, bachgen ifanc 14 oed sy'n ddisgybl yn Ysgol y Preseli, Crymych. Mae Haydon eisoes yn chwarae golff yn sgwad dan 16 oed Cymru ac mae ganddo'r potensial i fynd yn bell.
Clwb Achub Bywyd Trefdraeth
Hefyd yn y rhaglen, mae Iolo'n cael y cyfle i ymuno ym mwrlwm un o sesiynau hyfforddi Clwb Achub Bywyd Trefdraeth. Sefydlwyd y clwb yn 1970, ac mae ganddynt record lwyddiannus iawn yn gwasanaethu'r gymuned. Yn ystod y cyfnod hwnnw maen nhw wedi achub dros 300 o bobl, gan ddysgu nifer o sgiliau i ieuenctid yr ardal yn ogystal - sgiliau sy'n cynnwys nofio a chymorth cyntaf. Mae'n wasanaeth gwirfoddol sydd wedi cynhyrchu sawl achubwr bywyd ar y traeth ac yn y pwll nofio lleol. Mae ganddyn nhw gartref pwrpasol ar draeth Trefdraeth.
Bydd Iolo'n sgwrsio gyda Gareth ac Elin Jones, dau o hyfforddwyr y clwb, wrth iddyn nhw gynnal un o'r sesiynau hyfforddi wythnosol ar y traeth.