Bro Caerffili
Pigion Bro
- Pigion Bro
Mae'n siwr bod Caerffili'n fwyaf enwog am ei chaws a'i chastell. Ond nifer fach o bobl sy'n gwybod bod yna gastell sydd hyd yn oed yn hŷn na Chastell Caerffili wedi'i guddio fry ar ben Mynydd Caerffili.
Yn dref fywiog, fodern gyda gwreiddiau hynafol, mae Caerffili yn gymysgedd o'r hen a'r newydd, y wlad a'r dref, gyda'i siopau prysur a'i choedwigoedd tawel cudd.
Mae'r dref ei hun wedi bod yn gartref i nifer o bobl enwog, o'r comedïwr Tommy Cooper i Evan James, awdur ein hanthem genedlaethol "Hen Wlad Fy Nhadau".
Bydd Iolo Williams a Shân Cothi'n ymweld â'r dref i gwrdd â rhai o'i chymeriadau mwyaf diddorol.
Gwyn Bradbury - Gyrrwr beic BMX
Mae Gwyn Bradbury'n ddylunydd gardd yn ei waith bob dydd, ac mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn gwneud campau ar feiciau BMX. Mae wedi bod yn ymwneud â'r gamp ers 5 mlynedd ac yn ymarfer yn aml ar y traciau pwrpasol sydd wedi eu creu ar gyfer y gamp yn un o goedwigoedd Caerffili. Yn wreiddiol o Gaerffili, mae Gwyn wedi bod yn dod i'r trac yma ers 3 blynedd er mwyn ymarfer triciau a neidiadau ar ei feic Kona Cowan arbennig. Llynedd enillodd e'r wobr gyntaf yn North Shore Jam, un o gystadlaethau amlyca'r byd beicio BMX.
Angharad Davies - Tîm Arddangos Cŵn Rockwood
Mae Angharad Davies yn 18 oed ac yn teithio ledled y wlad i ddiddanu cynulleidfaoedd mewn sioeau cŵn, gan arddangos triciau mewn ystwythder ac ufudd-dod gyda Thîm Arddangos Cŵn Rockwood. Mae wedi bod yn ymwneud â'r tîm ers pan oedd yn 9 mlwydd oed ac mae ei theulu i gyd yn hyfforddwyr cŵn. Mae'n gweithio gyda'r ast Shaz, Doberman a hyfforddwyd gan Angharad i neidio trwy gylchoedd, rasio drwy dwneli, a hyd yn oed neidio trwy gylchoedd tân.
Anwen Thomas - Aelod o Ymddiriedolaeth Coetir Caerffili
Mae Anwen Thomas wedi bod yn aelod o Ymddiriedolaeth Coetir Caerffili ers 3 blynedd. Pobl leol sy'n rhan o'r grŵp ac maen nhw i gyd yn angerddol dros amddiffyn a chadw'r amgylchedd naturiol sydd yno, gan gynnwys fflora a ffawna. Maen nhw'n annog bywyd gwyllt drwy greu pyllau dŵr, ac maen nhw hefyd wedi ail-osod ffensys a giatiau ar gyfer y cyhoedd. Mae'r safle'n cael ei gydnabod fel ardal o ddiddordeb daearyddol sylweddol ac felly'n cael ei amddiffyn oherwydd y nifer fawr o ffosiliaid sydd i'w canfod yn yr ardal.
Dorian Simmonds and Nick Horne - Clwb Diffoddwyr Tân Ifanc Caerffili
Yn wreiddiol o Gaerffili, mae Dorian Simmonds wedi bod yn ymladdwr tân ers 5 mlynedd, ond yn ei amser hamdden, mae'n helpu arwain tîm o blant lleol rhwng 13-18 oed yng Nghlwb y Diffoddwyr Tân Ifanc. Mae'r clwb yn rhoi cyfle i bobl ifanc i ddysgu sgiliau ac i gael hyfforddiant sy'n debyg iawn i'r hyn mae'r ymladdwyr tân hŷn yn gorfod ei wneud. Mae'r grŵp hefyd yn gwneud amryw o ymarferion eraill, fel codi ysgolion a diffodd tanau ymarfer.
Mae Nick Horne yn 16 oed ac wedi bod yn aelod o Glwb Ymladdwyr Tân Ifanc Caerffili ers 3 blynedd ar ôl cael ei ysbrydoli i ddilyn ôl-traed ei dad, sy'n ddyn tân lleol. Ar hyn o bryd mae e'n dilyn cwrs NVQ mewn gwasanaethau cyhoeddus ac mae ei waith yn y clwb yn cyfri tuag at ei gymhwyster.
James Fussell - Cymdeithas Tommy Cooper
Yn un o aelodau gwreiddiol Cymdeithas Tommy Cooper, dechreuodd James Fussell ymwneud â'r gymdeithas am y tro cyntaf fel rhan o fenter codi arian gan y bobl leol i godi cerflun o Tommy Cooper yn ei dref enedigol. Llwyddodd y grŵp, ac fe ddadorchuddiodd Syr Anthony Hopkins y cerflun terfynol 9 troedfedd y llynedd. Mae'r grŵp nawr yn helpu pobl leol yn y celfyddydau perfformio gyda gweithgareddau codi arian gan gynnwys y "Tommy Cooper Walk of Fame" lle mae pobl yn talu i gael eu henw a neges ar frics ar y palmant. Bydd Shân yn sgwrsio â James am y gymdeithas, a hefyd yn clywed rhai o jôcs Tommy Cooper gan rai o bobl tref Caerffili.
Kellie Barnaby - Clwb Bocsio Cic Rhino's
Dechreuodd Kellie Barnaby, sy'n 20 oed, ar y gamp o focsio cic pan oedd yn 14 mlwydd oed oherwydd ei bod yn cael ei bwlio yn yr ysgol. Fe fu'r gamp yn gymorth iddi fagu hyder (a chyhyrau) ac ers hynny mae hi wedi llwyddo i ennill ei gwregys ddu gyntaf. Mae wedi ennill pencampwriaethau'r byd ddwywaith, a Kellie yw'r bencampwraig gyfredol yn ei chategori.
Sara Davies - Hanesydd
Yn bennaeth yr adran hanes yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, ganwyd a magwyd Sara Davies yng Nghaerffili ac mae bellach 'nôl yn dysgu yn yr ysgol lle bu'n ddisgybl ar un adeg! Gyda chyfoeth o wybodaeth am yr ardal leol a'i hanes, mae Sara'n tywys Shân ar daith hanesyddol o'r dref, o'r castell hynafol i'r hen sgwâr farchnad.
Clwb Rygbi Merched Teigrod Caerffili
Sefydlwyd Clwb Rygbi Merched Teigrod Caerffili yn 2004 drwy waith Sport Caerffili a gyda chymorth grant Lotri. Bydd Iolo'n galw draw i sesiwn ymarfer yn y clwb i gyfarfod â rhai o'r merched yno.