Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Caerffili

Yr wythnos hon, bydd Shân Cothi ac Iolo Williams yn cyfarfod trigolion bro Machynlleth. Mae Machynlleth yn cael ei hadnabod fel prifddinas hynafol Cymru gan mai yma oedd lleoliad senedd Owain Glyndŵr, ac mae ei senedd-dŷ yn parhau i fod yno heddiw ar Stryd Maengwyn y dref.

Mae Machynlleth hefyd yn enwog am dŵr y cloc, ac mae hefyd yn hen dref farchnad a gafodd ganiatâd gan Edward I i gynnal marchnad yno bob dydd Mercher am byth - traddodiad sy'n parhau hyd heddiw.

Arwel Price

Arwel PriceAthro Technoleg yw Arwel Price, ond mae o hefyd yn hyfforddi ar gyfer cystadleuaeth iron-man yn ei amser hamdden. Mae'r gŵr 51 oed wedi cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau yn ystod y deuddeg mlynedd ddiwethaf ac wedi cwblhau treiathlon y Bala mewn pum awr a hanner.

Erbyn hyn mae Arwel wedi rhoi ei frid ar gystadlu yng Nghystadleuaeth Iron Man UK yn Bolton, Sir Gaerhirfryn ym mis Awst. Bydd yn rhaid iddo nofio 2.4 milltir, seiclo 112 milltir a rhedeg marathon 26.2 milltir. Mae'n hyfforddi chwe diwrnod yr wythnos ac yn cadw at ddiet llym. Mae'n aelod o Glwb Treiathlon Cerist Machynlleth, mae'n helpu i drefnu treiathlonau lleol a digwyddiadau chwaraeon yn yr ardal. Bydd Iolo'n ymuno â fe yn ystod sesiwn hyfforddi gan fentro i'r môr.

Gwen Lloyd

Gwen LloydMae Gwen yn feistres annhebygol mewn Reiki, techneg Siapaneaidd sy'n cael ei ddefnyddio i ryddhau straen ac i ymlacio. Mae hi'n byw ar fferm 300 erw Glan Dulas Fawr, ym Mhantperthog ar gyrion Machynlleth. Mae ei gŵr a'i meibion, sy'n hoff o chwarae rygbi wedi elwa o'i thalentau - felly hefyd y cŵn Burmese Mountain maen nhw'n bridio. Enillodd yr ast, Zoe, gwobr gyntaf yn ei dosbarth yn Sioe Crufts yn 2008.

Yn ddiweddar mae Gwen wedi bod yn dwyn at grefft canhwyllau clust Hopi; therapi America Brodorol lle mae cannwyll wag yn cael ei osod y tu mewn i'r glust. Mae'r gannwyll yna'n cael ei chynnau ac mae'r gwacter sy'n cael ei ffurfio yn tynnu amhureddau o du mewn i'r glust. Cyfeirir at y broses hon fel y chimney effect.

Bydd Shân yn mynd am dro gyda Gwen â'r cŵn ar y mynyddoedd, cyn mynd yn nôl i'r tŷ i brofi triniaeth y canhwyllau Hopi.

Kelvin Jenkins

Kelvin JenkinsDechreuodd Kelvin Jenkins greu gemwaith dros 30 mlynedd yn nôl pan ddechreuodd astudio yn Sefydliad Camden, Llundain yn 1968. Cyn hynny bu'n gweithio fel archeolegydd gan weithio ar safleoedd led led y byd. Fe benderfynodd ef a'i wraig Judy symud i'w dref enedigol ym Machynlleth yn 1984.

Ers hynny, mae gemwaith Kelvin wedi cael ei werthu dros y byd i gyd, ac fe fu'n gyfrifol am greu modrwy ddyweddïo Sian Lloyd a Lembit Öpik. Mae Kelvin yn gweithio gydag Aur Cymru y rhan fwyaf o'r amser ac mae ganddo hefyd weithdy gemoleg ar gyfer adnabod gwahanol gerrig. Mae Kelvin yn Gadeirydd Siambr Fasnach y dref a hefyd yn dawnsio tap yn ei amser hamdden.

Geraint ap Iorwerth

Geraint ap IorwerthYn enedigol o Fachynlleth, mae'r Parchedig Geraint ap Iorwerth bellach wedi symud i bentref cyfagos Pennal, lle mae'n Weinidog yn Eglwys San Pedr yn y pentref.

Ar wahân i'w waith bob dydd, mae Geraint yn ymddiddori yn hanes Machynlleth ac mae ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes Lleucu Llwyd. Roedd Lleucu'n fwy na chymeriad barddol. Bu'n byw ar Fferm Dolgelynen ym Machynlleth tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac fe gafodd ei chladdu yn eglwys Geraint yn 1390. Bydd Iolo yn mynd ar daith hanesyddol o gwmpas tref Machynlleth gyda Geraint.

Tony Corden

Tony CordenDaw Tony Corden yn wreiddiol o Gernyw ond mae wedi bod yn byw ym Machynlleth am ddeng mlynedd. Mae ganddo angerdd am gerddoriaeth America Ladin ac am wleidyddiaeth yr ymladdwr dros ryddid o Chile, Victor Jara.

Ers tair blynedd bellach, mae wedi bod yn trefnu El Sueno Existe, gŵyl America Ladin Cymreig sy'n para am dridiau ym Machynlleth bob mis Awst gyda cherddoriaeth a seminarau ar hawliau dynol.

Mae Tony hefyd yn aelod o'r band Cloud Cuckoo. Eu halbwm diweddaraf yw Chile Con Cymru. Mae Tony wedi dysgu Sbaeneg a Chymraeg ac yn canu yn y ddwy iaith yn ogystal â chanu'r gitâr, y mandolin, chwibanau De America a Turango sydd wedi cael ei wneud o gragen armadilo.

Alwyn Evans

Alwyn EvansMae Alwyn Evans yn ŵr 27 oed o Fachynlleth ac astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Mae Alwyn wedi cael ei hyfforddi fel canwr clasurolurol ac mae'n denor gyda Chôr Meibion gyda'i fryd ar fod yn athro cerddoriaeth.

Yn y cyfamser, mae wedi bod yn gweithio yng nghaffi Y Gegin Fach yn gwneud cacenau. Ei nain fu'n gyfrifol am ei ddysgu i wneud cacenau pan oedd hi'n arfer gwarchod Alwyn pan oedd yn. Hoff rysáit Alwyn yw'r gacen ffrwythau, ac fe fu'n ddigon ffodus i ennill yr ail wobr gyda'r rysáit yma yng nghystadleuaeth cacen Nadolig Radio Cymru yn 2007.

Ond ei gacen foron yw ffefryn cwsmeriaid y Gegin Fach, ac fe fydd Shân yn rhoi help llaw iddo i wneud un ohonyn nhw.

Dylan Jones

Dylan JonesSaer ac adeiladwr yw Dylan Jones, 21, ond mae'n diddori ym myd beiciau mynydd traws gwlad. Mae'n cystadlu mewn amryw o gystadlaethau ac wedi ennill dwy fedal efydd ac un fedal arian yng Nghyfres Traws Gwlad Cymru.

Mae'r llwybr Cli-Machx ym Machynlleth yn enwog am fod yn eithriadol o anodd ac mae pobl wedi bod yn sâl ar ôl beicio yno. Ond mae Dylan yn hynod o ffit ac yn gallu seiclo'r cwrs llawn mewn tri chwarter awr.

Jane Lloyd Francis

Jane Lloyd FrancisMagwyd Jane Lloyd Francis ar fferm ym Machynlleth ac mae wedi ymddiddori mewn marchogaeth erioed. Sefydlodd hi a'i phartner, Georges Dewez, Carreg Dressage rhyw 15 mlynedd yn nôl ac maen nhw'n arbenigo mewn ceffylau dressage Sbaenaidd a Phortiwgeaidd.

Ynghyd â'u bridfa a chanolfan hyfforddi ceffylau, mae Jane hefyd yn rhedeg Theatr Geffylau Equilibre. Mae ei cheffylau'n perfformio gyda dawnswyr a cherddoriaeth mewn arddangosfa ddramatig o reolaeth ac ystwythder. Mae Shân yn ymuno yn yr ymarferion ac yn gweld ceffyl yn tapddawnsio am y tro cyntaf.

Meri Wells

Meri WellsMae'r arlunydd Meri Wells yn gweithio mewn hen ysgubor yn ei gardd lle mae ganddi odyn (kiln) llosgi coed. Mae'n arbenigo mewn ffigurau ceramig ac yn eu disgrifio nhw fel creaduriaid sy'n dod allan o'r clawdd mae hi'n gallu gweld trwy ei ffenestr. Mae Meri'n aelod etholedig o'r Academi Cerameg Rhyngwladol, ac yn athrawes gelf mewn dosbarthiadau nos yng Nghorris.

Sioned ac Alan Pugh

Sioned ac Alan PughMae fferm Tŷ Mawr wedi bod yn nheulu Alan Pugh ers tair cenhedlaeth ond bu'r angen i arallgyfeirio ysbrydoli Alan a Sioned i ychwanegu elfen o ddifyrrwch i'r fferm. Erbyn hyn mae ganddyn nhw fusnes llewyrchus sy'n cynnwys cynnig reidiau antur ar feiciau quad a saethu colomennod clai laser. Bydd Iolo'n cael tro ar y ddau weithgaredd.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales