Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Llanfairpwllgwyngyll

Ymunwch â Shân Cothi ac Iolo Williams wrth iddyn nhw ymweld â'r pentref bach gydag enw mawr yn Sir Fôn - Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysil- iogogogoch.

Mae'r pentref wedi'i leoli ar lannau afon Menai, ger pont Britannia, ac mae fwyaf enwog am ei enw - un o'r enwau llefydd hiraf yn y byd. Yn ôl cyfrifiad 2001, poblogaeth y pentref yw 3,040, gyda 76% o'r trigolion yn rhugl yn y Gymraeg.

Bro amaethyddol oedd ardal Llanfairpwll am ganrifoedd. Dechreuodd y pentref ddatblygu o gwmpas yr orsaf reilffordd lle'r arferai teithwyr Oes Fictoria ddal y trên i Gaergybi ar ôl croesi'r Fenai mewn cychod. Ond, pan agorwyd Pont Menai a Phont Britannia, roedd yn rhaid meddwl am reswm newydd i ddenu ymwelwyr i Lanfairpwll.

Yn ôl yr hanes, teiliwr o Borthaethwy awgrymodd rhoi'r enw hirfaith i'r pentref. Syniad marchnata gwych - ac mae ymwelwyr yn dal i dyrru yma yn eu cannoedd hyd heddiw.

Gwen Ellis

Gwen EllisMae Gwen Ellis wedi gweithio i gwmni siop James Pringle Weavers yn Llanfairpwll ers pum mlynedd bellach, a hi sy'n gyfrifol am gyfarch y bysus o ymwelwyr sy'n ymweld â'r ganolfan bob dydd. Mae hi wrth ei bodd yn cyfarfod y tyrfaoedd sy'n tyrru i'r ganolfan yn ddyddiol, a hithau wedi'i gwisgo mewn dillad traddodiadol Cymreig.

Weithiau fe fydd yn camu ar y bysus ac yn adrodd enw hirfaith Llanfairpwll wrth yr ymwelwyr, ac ar adegau eraill, bydd ymwelwyr yn ei holi am gefndir yr enw a hanes yr ardal. Bydd Shân yn cwrdd â Gwen y tu allan i'r siop cyn iddi gamu ar fws i gyfarch twristiaid.

Llwybr y Llewod

Llwybr y LlewodBydd Shân yn cael cwmni Gerwyn James a John Gwilym Jones wrth iddyn nhw ei thywys ar hyd Llwybr y Llewod. Mae'r llwybr yn arwain cerddwyr o gwmpas safleoedd hanesyddol Llanfairpwll, yn ogystal â'u cyflwyno i rai o olygfeydd mwyaf godidog a thrawiadol Ynys Môn.

Fe fyddan nhw'n mynd a Shân i weld y llewod calch sy'n gwarchod pont Britannia. Fe'u cerfiwyd gan John Thomas, fu hefyd yn gyfrifol am gerfluniau yn San Steffan a Phalas Buckingham. Mae'r llewod tua 4 metr o daldra ac yn eistedd ar blinthiau. Fe fydd Shân yn darganfod pam nad oes neb yn gallu eu gweld nhw wrth deithio dros y bont erbyn heddiw.

Stephen Edwards - Rhedwr, darlledwr a dylunydd graffeg

Stephen EdwardsDaeth Stephen Edwards yn llais cyfarwydd i wrandawyr BBC Radio Cymru fel y 'Weiran Gaws' ar raglenni Gang Bangor ac C2. Yn wreiddiol o Lanberis, mae Steve bellach yn byw gyda'i deulu yn Llanfairpwll ers tair blynedd, ac yn mwynhau bywyd yno.

Yn ogystal â'i waith, fel darlledwr a dylunydd graffeg, mae Stephen yn dipyn o redwr hefyd. Eleni bu'n rhedeg ac yn helpu trefnu Ras yr Wyddfa ac mae'n ymarfer ar gyfer marathon Eryri a hanner marathon Caerdydd.

Bydd Iolo yn ymuno â Steve i redeg drwy gefn gwlad bro Llanfairpwll.

Sheila Jones - Siop Sglodion Glan Menai

Sheila JonesMae Iolo yn galw am ychydig o ginio yn Siop Pysgod a Sglodion Glan Menai, i gyfarfod â'r perchennog, Sheila Jones. Mae Sheila wedi bod yn berchen ar y siop ers tua deunaw mlynedd, ac mae' wedi bwydo miloedd o gwsmeriaid dros y blynyddoedd. Mae'n cyflogi tua 20 aelod o staff ac mae hi'n dechrau'i gwaith am 11:00 bob bore.

Mae bob diwrnod yn wahanol i Sheila, ac mae ei siop yn profi'n boblogaidd gyda thwristiaid, yn enwedig y rhai hynny sy'n teithio drwy Lanfairpwll ar eu ffordd i'r Iwerddon.

Ceinwen Price a Trystan Edwards - Plas Newydd

Ceinwen PriceMae Plas Newydd wedi ei leoli ar gyrion Llanfairpwll ac ar lannau'r Fenai. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd berchen ar yr adeilad a dyma gartref Ardalydd neu Farquis Ynys Môn.

Dyma gartref Ceinwen Price, pianydd y plas, hefyd. Mae Ceinwen yn gyfrifol am gyfarch ymwelwyr i'r tŷ drwy ganu'r piano am dair awr tri diwrnod yr wythnos. Mae'n hi'n canu amrywiaeth o ddarnau ar y piano - o gyfansoddiadau Andrew Lloyd Webber i alawon Cymreig. Bydd Shân yn galw draw i'r tŷ i gael sgwrs â Ceinwen ger y piano.

Hefyd, fe gaiff Shân sgwrs gyda Trystan Edwards, rheolwr Plas Newydd ar ran yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd Trystan yn tywys Shân o gwmpas rhai o'r atyniadau oddi mewn i blasty Plas Newydd, gan gynnwys murlun arbennig gan Rex Whistler.

Gwyn Jones a Clifford Roberts - Becws Maenafon

Gwyn Jones a Clifford RobertsYn gynnar yn y bore, mae Shân yn galw draw i fecws Maenafon i gyfarfod â'r perchennog, Clifford Brookes, a Gwyn Jones sy'n bobydd bara o fri. Mae Gwyn wedi bod yn gweithio yn y becws ers 25 mlynedd. Mae ei ddiwrnod yn dechrau am 4am fel ei fod yn gallu dechrau ar y gwaith o bobi bara, cacennau a phasteiod sy'n cael ei gwneud yno bob bore.

Bydd Shân yn sgwrsio gyda Gwyn am ei batrwm dyddiol, ac yn cael tro ar bobi cacennau Eccles yng nghwmni Cliffe.

Alun Wyn Mummery - Tŵr Marquis

Alun Wyn MummeryBydd un o wynebau cyfarwydd pentref Llanfairpwll, Alun Wyn Mummery, yn tywys Shân at Dŵr Marquis Ynys Môn - un o atyniadau amlyca'r pentref.

Cafodd y tŵr ei gwblhau yn 1817 i goffáu Henry William Paget o Blas Newydd a fu'n arwain y marchoglu yn ystod Brwydr Waterloo yn 1815. Ar Dachwedd 24, 1860, gosodwyd cerflun efydd o Ardalydd Cyntaf Ynys Môn ar gopa'r tŵr. Cafodd y Tŵr ei ddylunio gan Thomas Harrison ac mae wedi'i wneud o garreg galch a fewnforiwyd i Bwll Fanogl o Foelfre.

Bydd Alun yn rhoi ychydig o hanes y tŵr i Shân, ar ddiwrnod gwyntog iawn. One of Llanfairpwll's most recognisable residents, Alun Wyn Mummery, guides Shân to the top of the Marquis of Anglesey tower - one of the village's most prominent landmarks.

Huw Williams - Wal ddringo Llanfairpwll

Huw WilliamsUn o'r llefydd mae ieuenctid Llanfairpwll yn ymweld â hi'n gyson drwy gydol y flwyddyn yw Canolfan Ddringo Indy, lle mae aelodau ifanc Clwb Antur Môn yn cyfarfod yn wythnosol i ddatblygu eu sgiliau dringo.

Bydd Iolo'n galw draw i'r ganolfan i weld y criw yn ymarfer, ac yn cael sgwrs gydag un o weithwyr y ganolfan, Huw Williams.

Hwfa Roberts a Dion Owen - Clwb Bowls Llanfairpwll

Hwfa Roberts a Dion OwenBydd Shân yn cyfarfod â rhai o aelodau Clwb Bowls Llanfairpwll - Hwfa Roberts, ysgrifennydd y clwb a Dion Owen, un o aelodau iau'r clwb sydd ond yn 16 mlwydd oed.

'Crown Bowls' yw'r gêm sy'n cael ei chwarae yn Llanfairpwll - sydd ychydig yn wahanol i'r bowls arferol. Bydd Shân yn dysgu mwy am y gêm yng nghwmni Hwfa a Dion.

Elin Fflur - Cantores

Elin FflurElin Fflur yw un o wynebau a lleisiau amlycaf Llanfairpwll ac mae hi wedi byw yno ers pan oedd hi'n 13 mlwydd oed. Mae Elin bellach yn wyneb cyfarwydd ar S4C fel cyflwynydd y rhaglen gerddorol, Nodyn.

Mae hi hefyd yn gantores o fri a ddaeth i amlygrwydd ar ôl ennill cystadleuaeth Cân i Gymru. Ers hynny mae wedi rhyddhau nifer o recordiau, ac mae 'Hafana' ei CD diweddaraf, yn cynnwys y gân Fy Rhandir Mwyn a gafodd ei ysbrydoli gan Lanfairpwll.

Bydd Shân yn cyfarfod ag Elin dros goffi yn nhafarn Y Penrhos yn y pentref - tafarn lle bu Elin yn gweithio ar un adeg.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales