Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Bro Y Drenewydd

Bro Y Drenewydd

Y Drenewydd yw un o'r trefi mwyaf yng nghanolbarth Cymru. Tref farchnad yw hi - yn sefyll ar lannau bwa mawr yn yr afon Hafren.

Nôl ar ddechrau'r chwedegau fe orlifodd yr afon ar sawl achlysur gan achosi difrod difrifol i hen adeiladau canol y dref. Roedd y sefyllfa mor enbydus fel yr ystyriwyd gadael i'r dref ddirywio, a symud y boblogaeth i dir uwch gerllaw. Ond, yn 1965, penderfynwyd achub y Drenewydd, newid cwrs yr afon - a gwario'n helaeth ar amddiffynfeydd rhag llifogydd.

Sefydlwyd busnesau newydd, adeiladwyd stadau tai eang a chynyddodd y boblogaeth. Ond mae hanes y Drenewydd yn dechre cyn sefydlu'r dref ei hun - a hynny yng nghastell Llywelyn ap Gruffydd yn Nolforwyn.

Penri Roberts a Chastell Dolforwyn

Penri Roberts a Chastell Dolforwyn Bydd Shân yn cael cyfle i ddysgu am hanes Castell Dolforwyn yng nghwmni Penri Roberts. Mae Penri'n fwyaf adnabyddus am ei waith gyda Chwmni Theatr Ieuenctid Maldwyn gyda Linda Gittins a Derec Williams dros y chwarter canrif ddiwethaf. Gwelwyd ffrwyth eu llafur mewn sioeau cerdd megis Y Mab Darogan, Pum Diwrnod o Ryddid ac Ann! ac mae'r tîm wedi mynd ati i sefydlu Ysgol Theatr Maldwyn erbyn hyn i roi cyfleoedd theatrig i bobl ifanc.

Codwyd Castell Dolforwyn gan Llywelyn ap Gruffudd (Llywelyn ein Llyw Olaf), Tywysog Cymru, yn y flwyddyn 1273 pan oedd ar anterth ei rym. Roedd tref fechan yn ymyl y castell a adeiladwyd ar yr un adeg â'r castell ei hun, mae'n debyg, ac fe fydd Penri'n tywys Shân i'r castell i sôn am ei hanes.

Ffonic - Rhys Morgan Jones, Esta Esslemont a Steve Leyland

Ffonic - Rhys Morgan Jones, Esta Esslemont a Steve Leyland Daw Shân i adnabod rhai aelodau o'r grŵp gwerinol Ffonic sy'n ymarfer ar gyfer perfformiad yng Ngŵyl Rhaeadr. Dechreuodd Ffonic nôl ym mis Medi 2000 pan ddaeth saith o gerddorion gobeithiol at ei gilydd i ddechrau ymarfer mewn cegin. Ers hynny, mae aelodau Ffonic wedi cynyddu ac esblygu ac mae'r grŵp sy'n chwarae pob math o gerddoriaeth gwerinol yn mwynhau adlonni gwrandawyr mewn gwyliau cerddorol cyfagos. Bydd Shân yn sgwrsio gyda Rhys Jones sydd newydd ymuno â Ffonic ac sy'n canu'r ffidil yn y grŵp, a hefyd gydag Esta Esslemont a Steve Leyland sydd wedi bod yn y grŵp ers sawl blwyddyn erbyn nawr.

Hywel Richards, gyrrwr tacsi

Hywel Richards, gyrrwr tacsi Daw Hywel Richards o Lanbrynmair yn wreiddiol, ond mae wedi gweithio yn Y Drenewydd ers blynyddoedd bellach. Bu'n asio yn Ffatri Presco yn y dref am gyfnod ac wedyn bu'n gweithio fel barman yn yr Elephant & Castle am 21 o flynyddoedd, cyn penderfynu mynd i yrru tacsi gyda chwmni Station Cars yn y dref 7 mlynedd nôl. Mae Hywel yn hoffi cerdded ac yn aelod o dîm dominos y Waggon & Horses yn y dref. Caiff Shân gyfle i glywed ambell stori ddoniol wrth i Hywel rannu ambell gyfrinach am ddigwyddiadau'r tacsi wrth iddi deithio o un lleoliad i'r llall.

Dot Richards, aelod o dîm bowlio menywod Y Drenewydd

Dot RichardsCaiff Shân gyfle i gyfarfod Dot, un o aelodau Clwb Bowlio Y Drenewydd. Gwraig o Lanfair Caereinion yw Dot yn wreddiol, ond mae bellach yn byw yn Y Drenewydd. Daeth diddordeb Dot mewn chwarae bowls oddi wrth ei gŵr, ond yn dilyn ei farwolaeth, penderfynodd Dot barhau i chwarae bowls gan gynrychioli tîm merched Y Drenewydd yn y gynghrair. Mae'r tîm yn chwarae dros ganolbarth Cymru gyfan ac yn mwynhau wrth chwarae, beth bynnag yw'r canlyniad!

Mai Jones, hyfforddwraig dawnsio llinell

Mai Jones, hyfforddwraig dawnsio llinell Wrth i Shân grwydro'r Drenewydd, daw o hyd i Mai Jones a'r grŵp o ddawnswyr llinell yng Nghlwb y Monty yng nghanol y dref, sef y "Monty Club Stompers".

Mae Mai a'i phartner Daf yn rhedeg Clwb y Monty ers dwy flynedd - yn ogystal â chynorthwyo gyda gweithgareddau yn y gymuned megis y carnifal, mae Mai yn dysgu dawnsio llinell yn y clwb bob nos Fawrth. Dechrau fel gweithgaredd hwyliog wnaeth y gwersi dawnsio yma er mwyn rhoi ychydig o ymarfer corff i aelodau hŷn y clwb, ond mae wedi tyfu a thyfu dros amser gan ddod yn weithgaredd boblogaidd iawn, mor boblogaidd nes bod diwedd y byd yn dod os oes unrhyw wers yn cael ei chanslo am unrhyw reswm! Mae Mai wedi bod yn dawnsio ers ugain mlynedd ac wedi bod yn cystadlu hefyd pan oedd yn iau, ond rhywbeth hwyliog sy'n cynorthwyo'r gymdeithas yw'r dawnsio iddi ers y chwe' mlynedd ddiwethaf. Mae gan Mai ddawnswyr o 12 oed hyd at 81 oed yn ei gwersi ac mae'n gyfle i bawb ystwytho'u cyrff yn wythnosol. Mae Shân yn ymuno â'r Monty Stompers mewn gwers dawnsio llinell!

Tom Tudor - Canolfan Bwrdd Marchnata Gwlân Y Drenewydd

Tom Tudor - Canolfan Bwrdd Marchnata Gwlân Y Drenewydd Iolo sy'n cael y cyfle i ddysgu ychydig am hanes gwlân yn Y Drenewydd yng nghwmni Tom Tudor sy'n aelod o Fwrdd Gwlân Gogledd Cymru. Caiff Iolo ddysgu am y broses o rannu, graddio a phacio'r gwlân cyn ei werthu.






Nansi Ellis, hanes siop Pryce Jones

Nansi Ellis, hanes siop Pryce Jones Daw Iolo i wybod mwy am hanes Pryce Jones wrth gael sgwrs gyda Nansi Ellis. Daw Nansi o Sir Feirionydd yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn Y Drenewydd ers 1973. Athrawes deithiol oedd Nansi, ond mae wedi ymddeol bellach ac yn mwynhau treulio amser gyda'r wyrion a'r wyresau.

Ganed Pryce Jones yn Y Drenewydd yn 1834. Bu'n brentis i ddilledydd lleol, John Davies, ac fe gymerodd yr awenau gyda'r busnes yn 1856. Tyfodd y busnes i fod yn llewyrchus o dan yr enw newydd, sef y 'Royal Welsh Warehouse'. Mewn ymgais i werthu ei nwyddau i gymaint o bobl ag oedd yn bosibl, datblygodd y syniad o anfon patrymau o'r nwyddau i'r bonedd lleol, a arweiniodd wedyn at anfon rhestrau o nwyddau a oedd ar gael o'i ffatri ei hunan a ffatrioedd eraill a oedd yn bellach i ffwrdd, gan hysbysebu dramor hefyd yn ddiweddarach.

John Evans, casglwr Meccano

John Evans, casglwr Meccano Wrth alw gyda chyfaill yn Y Drenewydd, mae Iolo'n darganfod cyfrinach amdano. Mae John wedi bod yn casglu Meccano ers yn blentyn ac mae ganddo lond tŷ ohonynt erbyn hyn! Mae John yn mynychu arddangosfeydd yn trafod Meccano yn rheolaidd ac wedi bod yn Skegness yn ddiweddar. Mae John wedi teithio dros y dŵr i arddangosfa yn Ffrainc hyd yn oed gan fod cymaint o ddiddordeb ganddo mewn Meccano.

Mae John wedi ymddeol bellach o A.D.A.S. (Agricultural Development and Advisory Service), ond yn brysur iawn o hyd. Mae John yn ŵr gweithgar iawn yn y gymuned yn feunyddiol ac ef oedd yn gyfrifol am drefnu taith gerdded dros Gymru yn ddiweddar er mwyn casglu arian at Mencap.

Siân Davies a grŵp roc "Da'n Gilydd" o Ysgol Dafydd Llwyd

Siân DaviesMae Iolo'n cael cyfle i 'rocio' yn Ysgol Dafydd Llwyd yn ystod ei ymweliad â'r dref. Ysgol Dafydd Llwyd yw ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg Y Drenewydd gyda thros 100 o ddisgyblion ar y gofrestr erbyn hyn. Caiff Iolo hanes Dafydd Llwyd a llwyddiannau'r ysgol yng nghwmni Sian Davies y Pennaeth cyn cael sgwrs gydag aelodau brwdfrydig y band roc buddugol "Da'n Gilydd", wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer perfformiad pwysig yng ngwasanaeth yr ysgol.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales